Date/Time:
Date(s) - 29/09/2017 - 15/10/2017
4:00 pm
Lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe
Fel gŵyl fwyaf y celfyddydau yng Nghymru, mae Gŵyl Ryngwladol Abertawe’n rhan hanfodol o fywyd diwylliannol Abertawe. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ŵyl wedi cynyddu nifer y digwyddiadau a’r lleoliadau, gan gynnig mwy i bobl ifanc y ddinas a’r boblogaeth ehangach.
Ceir rhaglen lawn dros bythefnos mewn lleoliadau ar draws y ddinas. Eleni, mae’r ŵyl yn dechrau ychydig yn gynt pan, ar y cyd â Phenwythnos Mawr Abertawe, fydd Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd ar ôl 20 mlynedd. Dros dridiau (29 a 30 Medi ac 1 Hydref), bydd Stryd Fawr Abertawe’n llawn comedi, bandiau, barddoniaeth a pherfformiadau.
Bydd Gŵyl Ryngwladol Abertawe’n cychwyn ar 4 Hydref yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, gyda hoff soprano Abertawe, Elin Manahan Thomas, a fydd yn perfformio caneuon o Gymru a’r byd ehangach, gan gynnwys perfformiad cyntaf o’r cylch newydd o ganeuon My Own Country, a gomisiynwyd gan yr ŵyl. Cyfansoddwyd ay gwaith gan y pianydd, Jeffrey Howard a fydd hefyd yn cyfeilio.
Drwy gydol yr ŵyl, ceir cyfoeth o ddoniau o Gymru a gwledydd eraill. Ar ganmlwyddiant Chwyldro Rwsia, bydd Cerddorfa Symffoni St Petersburg yn perfformio cyngerdd yng Nghymru; bydd Corau Meibion Dynfant a Chlwb Rygbi Treforys yn ymuno am noson gofiadwy o ganeuon o Gymru; bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio dwy gyngerdd: y cyntaf i’w harwain gan Tecwyn Evans ac yn cynnwys y delynores Catrin Finch; a’r ail, eu Cyngerdd Deuluol boblogaidd iawn.
Ceir datganiadau gan y pianydd Llŷr Williams, yr organydd Jonathan Hope ac Orpheus Sinfonia gyda’r sielydd Thomas Carroll; sgyrsiau gyda Michael Heseltine a Stephen Johnson ac ymddangosiadau gan The Society of Strange Instruments; yr offerynwr taro Joby Burgess; a Philip Corner fydd yn chwarae’r gong yn fyrfyfyr. Ynghyd ag arddangosiadau celf weledol, sgyrsiau amser cinio, prosiect addysgol ar The Bells of Santiago, Gŵyl Gerddoriaeth Ysgolion Cynradd ddynodedig a rhaglen o gerddoriaeth fyw a Gŵyl Gerddoriaeth Fechan yn Ysbyty Treforys, mae Gŵyl Ryngwladol Abertawe wir at ddant pawb.
Mae’r ŵyl yn falch o gefnogi cais Dinas Diwylliant 2021 a bod yn rhan ohono.
Am fwy o wybodaeth a thocynnau ewch i www.swanseafestival.org/cy
Lawrlwythwch eich rhaglen Gŵyl Ryngwladol Abertawe
Digwyddiadau Gŵyl 2017:
Dydd Gwener 29 – dydd Sul 1 Hydref
Gŵyl Ymylol Abertawe
Y Stryd Fawr, Abertawe
Dydd Mercher 4 Hydref
The Bells of Santiago (Prosiect Addysgol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Nos Fercher 4 Hydref
My Own Country – Elin Manahan Thomas (soprano)
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Nos Iau 5 Hydref
Society of Strange and Ancient Instruments
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Nos Iau 5 Hydref
Shylock
Theatr y Grand Abertawe, Adain y Celfyddydau
Nos Iau 5 Hydref
Not About Heroes
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Nos Wener 6 Hydref
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda Catrin Finch (telyn)
Neuadd Brangwyn
Nos Wener 6 Hydref
Not About Heroes
Theatr Celfyddydau Taliesin
Dydd Sadwrn 7 Hydref
Cyngerdd Deuluol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Neuadd Brangwyn
Nos Sadwrn 7 Hydref
Powerplant – Joby Burgess (offerynnau taro)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dydd Sul 8 Hydref
Taith Gŵyl Presteigne – Tim Horton (piano)
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Dydd Sul 8 Hydref
Cinio Cyfeillion yr Ŵyl
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Dydd Sul 8 Hydref
Darlith Cyfeillion yr Ŵyl – Stephen Johnson (darlledwr)
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Dydd Sul 8 Hydref
Llŷr Williams (piano)
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Nos Lun 9 Hydref
Jonathan Hope (organ)
Neuadd Brangwyn
Nos Fawrth 10 Hydref
Michael Heseltine yn sgwrsio gyda Jamie Owen
Theatr y Grand Abertawe
Nos Fercher 11 Hydref
Orpheus Sinfonia gyda Thomas Carroll (sielo)
Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Nos Fercher 11 Hydref
Madama Butterfly – Opera Gwladwriaeth Rwsia
Theatr y Grand Abertawe
Dydd Iau 12 Hydref
The Hunting of the Snark
Theatr Celfyddydau Taliesin
Nos Iau 12 Hydref
Metal Meditations – Philip Corner
Oriel Mission
Nos Iau 12 Hydref
Tosca – Opera Gwladwriaeth Rwsia
Theatr y Grand Abertawe
Nos Iau 12 Hydref
Granton Street – Cwmni Theatr Fluellen
Theatr y Grand, Adain y Celfyddydau
Nos Wener 13 Hydref
Côr Meibion Dynfant a Chôr Meibion Clwb Rygbi Treforys
Neuadd Brangwyn
Nos Wener 13 Hydref
Granton Street – Cwmni Theatr Fluellen
Theatr y Grand, Adain y Celfyddydau
Nos Wener 13 Hydref
Jo Brand
Theatr y Grand Abertawe
Nos Wener 13 Hydref
Leviathan gyda James Wilton Dance
Theatr Celfyddydau Taliesin
Nos Sadwrn 14 Hydref
Cerddorfa Symffoni St Petersburg
Neuadd Brangwyn
Nos Sadwrn 14 Hydref
The Light Princess – Bale Cymru
Theatr y Grand Abertawe
Dydd Sadwrn 14 – dydd Sul 22 Hydref
TOSH: A Swansea Football Fairytale
Galerie Simpson, Y Stryd Fawr, Abertawe
Dydd Sul 15 Hydref
Gŵyl Gerddoriaeth Ysgolion Cynradd
Neuadd Brangwyn
Categories