Date/Time:
Date(s) - 10/12/2017
7:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Tocynnau: sedd gadw £20, £15, £9
07795 236807
Am ostyngiadau grŵp (2 docyn am ddim gyda grŵp o 10 yn prynu tocynnau) ffoniwch 07795 236807
Dewch i groesawu tymor y Nadolig a chodwch y to gyda thros 300 o leisiau gan gynnwys lleisiau Côr Merched a Chôr Bechgyn Hywel sydd wedi perfformio a darlledu’n rhyngwladol, lleisiau nefolaidd Angelicus Celtis sydd wedi perfformio ar Britain’s Got Talent ITV, lleisiau cryf Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys, Cymdeithas Gorawl Llanelli, y seren opera o Gymru, Gary Griffiths, a lleisiau 200 o blant ysgol “Singcredible”. Gyda Huw Tregelles Williams OBE (organ), Jane Jewell (piano), Gareth Hamlin (offerynnau taro) a cherddorfa’n cyfeilio – oll dan arweiniad yr arweinydd adnabyddus John Hywel Williams MBE.
Bydd uchafbwyntiau’n cynnwys yr Hallelujah Chorus, O Come All Ye Faithful, Hark The Herald Angels Sing, O Holy Night, Star of Bethlehem, Silent Night, Away in a Manger, Joy to the World, Carol of the Bells, Walking in the Air, Pie Jesu, Ave Maria, Gabriel’s Message a nifer mwy wedi’u cyfuno ag amrywiaeth o hanesion y Nadolig.
Categories No Categories