fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd

Mae’r diwrnodau’n dechrau ymestyn a’r cennin Pedr yn eu blodau, ac mae arweiniad digwyddiadau diweddaraf Abertawe yma i’ch helpu i wneud yn fawr o fis Mawrth,… a chyda’r cynnig bysus am ddim yn dychwelyd i Abertawe o ddydd Sadwrn 23 Mawrth, gallwch deithio i unrhyw le yn sir Abertawe ar fws, am ddim!

Mae gan ein lleoliadau amserlen lawn o bethau difyr i’w gwneud gyda’r plant y Pasg hwn.  Beth am gymryd rhan yng ngweithgareddau anhygoel yr Hen Aifft yn Amgueddfa Abertawe, mynd i’r ysgol glowniau yn un o’n llyfrgelloedd neu roi cynnig ar ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Dylan Thomas?

Mae gan ein tîm chwaraeon ac iechyd lawer wedi’u cynllunio hefyd, gan gynnwys sesiynau beiciau cydbwysedd am ddim, gemau stryd, a gwersyll pêl-fasged.  Mae digon o hwyl y Pasg am ddim i’w chael.

Atyniadau Awyr Agored

Os hoffech deithio ar hyd Prom Abertawe mewn steil, ewch ar Drên Bach Bae Abertawe. Bydd Trên Bach Bae Abertawe yn ailagor ar 23 Mawrth 2024 a bydd yn rhedeg bob penwythnos, a 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol.

Bydd pedalos Parc Singleton, golff gwallgof a gerddi Southend  yn ailagor ar 23 Mawrth 2024 i 22 Medi 2024, bob penwythnos a 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol.

Atyniadau Awyr Agored

Castell Ystumllwynarth

Mae castell Ystumllwynarth yn ailagor ar 25 Mawrth, mewn pryd ar gyfer y Pasg!

Ar agor bob dydd heblaw am ddydd Mawrth, 11am – 5pm. Ymunwch â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth dros benwythnos y Pasg ar gyfer dau ddigwyddiad cyffrous!

Dydd Sadwrn 30 Mawrth – Diwrnod Hanes Byw Canoloesol, ymunwch â Gwerin y Gwyr, arddangoswyr a pherfformwyr lleol sy’n ail-greu hanes, i brofi sut beth oedd bywyd yng Nghastell Ystumllwynarth yn y 13eg ganrif. Mae taliadau mynediad arferol yn berthnasol.

Dydd Sul 31 Mawrth – Llwybr Bwni’r Pasg, dewch o hyd i’r bwnis sy’n cuddio y tu mewn i’r castell er mwyn ennill gwobr arbennig ar gyfer y Pasg! O 11am tan 1pm, neu nes bod yr holl wobrau wedi mynd. Pris tocyn yw £4 fesul plentyn gydag un oedolyn am ddim! Mae’r castell ar agor fel arfer tan 5pm

Rhagor o wybodaeth

Chwaraeon ac Iechyd

Dewch i ddathlu’r Pasg gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd a darganfod beth sydd ar gynnig

Amserlen

Canolfan Dylan Thomas

Galwch heibio Canolfan Dylan Thomas dros wyliau’r Pasg i ddarganfod ein llwybr newydd sbon, ‘Hoff Losin Dylan’! Roedd Dylan wrth ei fodd yn bwyta losin yn y bath ac ysgrifennodd am rai o’i hoff rai yn ei straeon a’i ddarllediadau.  

Gan ddefnyddio hyn fel ysbrydoliaeth, rydym wedi cuddio jariau bach sy’n cynrychioli’r losin yn ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ – allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd? Mae’n hwyl i deuluoedd o bob oedran ac mae gwobr os ydych chi’n dod o hyd i bob jar.   

Byddwn hefyd yn cynnal gweithgareddau ar thema ‘Here in this spring’ i deuluoedd a fydd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas ac ar-lein. 

Rhagor o wybodaeth

Amgueddfa Abertawe

Rhwng 22 Mawrth a 7 Ebrill, bydd gan Amgueddfa Abertawe rai gweithgareddau’r Hen Aifft Anhygoel: dau weithdy, un llwybr newydd a phecyn am ddim yn llawn gemau a chrefftau!

Dydd Iau 28 Mawrth

10am i 1pm – Defnyddiwch eich sgiliau creadigol i ddylunio’ch helfa drysor eich hun. Sesiwn galw heibio i bob oed, am ddim.

Dydd Iau 4 Ebrill

 10am i 1pm – Gallwch ymarfer gwneud crochenwaith drwy gerflunio ffiguryn ushabti Eifftaidd clai i fynd ag ef adref. Sesiwn galw heibio i bob oed, am ddim

Mae cyfle hefyd i roi cynnig ar lwybr newydd ar thema Eifftaidd o gwmpas yr amgueddfa a chofiwch fynd â phecyn gweithgareddau am ddim adref gyda chi i fwynhau hyd yn oed mwy o gemau a gweithgareddau.

Rhagor o wybodaeth

Llyfrgelloedd Abertawe dros y Pasg

Bydd gan 17 o lyfrgelloedd Abertawe lu o ddigwyddiadau gwych i ddiddanu pob oedran dros wyliau’r Pasg.

 

Bydd cyfle i ymuno â Familia de la Noche yn yr ysgol glowniau ddydd Mercher, 27 Mawrth. Cyfres o gemau difyr a gweithgareddau rhyngweithiol yw’r Ysgol Glowniau, sy’n annog meddwl yn greadigol a bod yn wirion. Darperir y sesiynau yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg ac maent ar gyfer plant 5 oed ac yn hŷn. Cynhelir y sesiynau yn y Llyfrgell Ganolog am 10am, yn Llyfrgell Treforys am 12.30pm ac yn Llyfrgell St Thomas am 3pm. Rhaid cadw lle.

 

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys Diwrnod Hwyl Wonka yn Llyfrgell Gorseinon ddydd Mawrth, 26 Mawrth rhwng 10am a 2pm.

 

I gael rhagor o fanylion ynghylch yr holl ddigwyddiadau ar draws y gwahanol lyfrgelloedd, ewch i wefan Joio Bae Abertawe neu cymerwch gip ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cliciwch yma i weld y rhestr iawn o ddigwyddiadau

Mwynhewch eich parc lleol

Y Pasg hwn, gwnewch yn fawr o’r diwrnodau sych, heulog a mwynhewch y mannau awyr agored gwych. Rydym yn ffodus iawn fod gennym dros 50 o barciau a gerddi hyfryd, ac mae llawer ohonynt ar ein carreg drws – ac mae llawer o ffyrdd i’w mwynhau.

P’un a ydych am fynd am dro hamddenol, cynyddu nifer eich camau wrth fynd â’r ci am dro, creu cwrs rhwystrau eich hun, ymarfer neu ddysgu sgil newydd, neu am edmygu harddwch y gwelyau blodau lliwgar, mae parc yn agos i chi.

Rhagor o wybodaeth

Gweithgareddau’r Pasg

P’un a ydych chi’n aros gartref, yn aros yn lleol neu’n crwydro ychydig ymhellach dros wyliau’r Pasg, dyma daflenni gweithgareddau difyr i gadw’ch rhai bach yn brysur wrth iddynt aros am fwni’r Pasg! Gallwch eu lawrlwytho a’u mwynhau am ddim!

Easter logo for Enjoy Swansea Bay