Date/Time:
Date(s) - 03/03/2018 - 29/04/2018
10:00 am - 4:50 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Pris: Am Ddim
Addasrwydd: Pawb
Hi. Shwmae. Salam. Përshëndetje. Merhaba. Jambo.
Grŵp o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ydyn ni sydd wedi bod yn gwirfoddoli ar y project cyffrous hwn am brofiadau unigolion o dyfu fyny yng Nghymru.
Gall ein profiad gael ei liwio gan y bobl fyddwn ni’n treulio amser gyda nhw, a gan farn y cyfryngau ar bobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig neu grwpiau crefyddol.
Ein nod yn yr arddangosfa hon yw darganfod a dangos i chi beth mae tyfu fyny yng Nghymru yn ei olygu i ni. Gobeithio y gallwn ni wneud i chi ystyried beth sy’n gwneud pawb yn unigryw. Meddyliwch hefyd am y gair ‘ymfudwr’ – beth mae hyn yn ei olygu i chi ac i ni?
Sefydliad cymunedol yw’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) sy’n cefnogi unigolion o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru.
Categories