Date/Time:
Date(s) - 26/09/2019
7:30 pm - 10:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Mae John Finnemore, awdur a seren sioeau arobryn “John Finnemore’s Souvenir Programme”, “Cabin Pressure” a “John Finnemore’s Double Acts” BBC Radio yn dod â’i sioe fyw newydd sbon i’r llwyfan!
Gyda chymorth gwesteion arbennig o Souvenir Programme, bydd John yn perfformio sgetshis newydd sbon, rhai hen ffefrynnau a chân o bosib, oni bai fod rhywun yn ei rwystro rhag gwneud hyn. Bydd Arthur Shappey o Cabin Pressure hefyd yn perfformio’n fyw ar y llwyfan – stiward mwyaf llon, ond mwyaf annefnyddiol yr awyr. Mae croeso i blant, ar yr amod eu bod yn chwerthin yn y lleoedd cywir. Mae’r un peth yn wir ar gyfer oedolion hefyd.
‘Dyma un o’r sioeau comedi gorau o ran y sgript, y cast, yr actio a’r cyfarwyddo sy’n cael ei pherfformio’n unrhyw le.’
The Daily Telegraph
‘Rhaglen Souvenir Programme John Finnemore yw’r sioe gomedi orau ar y teledu a’r radio ers blynyddoedd.’
Radio Times
‘Doniol iawn, iawn.’
The Times.
Tocynnau: £27.00
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English