Date/Time:
Date(s) - 19/09/2018 - 10/10/2018
10:00 am - 4:30 pm
Location: Swansea Civic Centre
Mae’r newyddiadurwr ffotograffiaeth rhyngwladol, Lee Karen Stow, wedi treulio degawd yn dogfennu profiadau personol menywod o ryfel ac ymladd a menywod sy’n ymgyrchu dros heddwch, o Sierra Leone i Eryri, a nawr, Abertawe. Mae ei phortreadau pwerus a’i hanesion hudol yn fythgofiadwy.
“Yn 2017, gofynnodd Cymru dros Heddwch i mi dynnu lluniau rhai o’r menywod lawer yng Nghymru sydd â phrofiad o ryfel ac ymladd neu yr effeithiwyd arnynt gan ryfel ynghyd â rhai o’r menywod hynny sydd wedi ymgyrchu, ac sy’n parhau i ymgyrchu, yn y gobaith o sicrhau heddwch. Bydd y wynebau ar y waliau’n enghreifftiau’n unig o’r unigolion niferus na chlywyd eu hanes eto. Ein gobaith yw y bydd yr arddangosfa hon yn ennyn sgwrs am bresenoldeb hanesyddol a pharhaus rhyfel yn ein bywydau, ac am yr ymdrechion parhaus i sicrhau heddwch.” Lee Karen Stow
Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mynediad
Am ddim. Dydd Lun i ddydd Gwener, 10am-4.30pm.
Categories