Date/Time:
Date(s) - 27/09/2018
7:30 pm
Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau yn Abertawe sy’n arddangos cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyrio rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, gwerin amgen a cherddoriaeth newydd. Fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe eleni, mae cydweithrediad gyda NAWR yn dod â thri chyngerdd cyfareddol ac unigryw i’r ŵyl.
Bydd NAWR yn cynnal eu cyngherddau yn Stiwdios PCDDS Abertawe yn neuadd hanesyddol y BBC, gem gudd ymysg neuaddau cyngerdd Abertawe ac un o’r gofodau gwrando gorau yng Nghymru. Maen nhw’n anelu at gynnig gofod agored a myfyrgar i gynulleidfa gael profiad o gerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar a chlos.
Bydd Mike Cooper a Bell Lungs yn perfformio yng nghyngerdd cyntaf y gyfres.
Mike Cooper
Mae’n chwarae gitâr ben-glin ddur ac yn canu, mae’n byrfyfyrio ac yn cyfansoddi, yn creu caneuon, yn artist gweledol a gosodiadol ac yn wneuthurwr fideos a chynhyrchydd celfyddydau radio. Gitarydd blŵs-gwerin oedd Mike Cooper yn wreiddiol ac mae’n un o’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am boblogrwydd y blŵs acwstig yn y DU ganol y 60au. Gellid dweud ei fod wedi ymestyn posibiliadau’r genre hwnnw ymhellach na’i gyfoedion mwy adnabyddus Davy Graham, Bert Jansch, John Renbourne ac ati drwy ei wthio i feysydd cerddorol mwy avant-garde arloeswyr gitâr fel Elliott Sharp, Keith Rowe, Fred Frith a Marc Ribot, gyda chymysgedd eclectig o’r arddulliau amrywiol y mae wedi eu hymarfer dros y blynyddoedd.
Mae’n amrywio o fyrfyfyrio rhydd, ei ganeuon gwreiddiol idiosyncratig ei hun, cerddoriaeth electroacwstig, exotica, blŵs gwlad traddodiadol, gwerin, caneuon pop, a chwarae ‘ystumio seiniol’ gan ddefnyddio tiwnio agored, technegau gitâr estynedig ac electroneg.
“Cooper, now in his seventies, is making the most adventurous music of his life… incredibly rich and evocative, and as a live performance, it’s utterly flawless. Cooper takes live guitar processing and sampling as his raw material, using it to build something complex and substantive, full of ideas and surprises, not just abandoning it half-formed.” – Jonathan Dean, Brainwashed
“Cooper’s music, in any of its forms, seems drunk on the intermingling of folk traditions, searching for a spot between them all that renders the strange familiar and vice versa. He is an improvisatory musician, one who generates his music in sheets, loops, and layers, and he seems to accrete these found-sound albums like a spider spins silk, or a vine grows pumpkins. They just appear, fattened and ripe, the fruits of his memories, travels, and idiosyncrasies.” – Pitchfork
Bell Lungs
Mae Bell Lungs yn berfformiwr byw grymus gan greu bydoedd sain drwy ddefnyddio ei llais sy’n cwmpasu sawl wythawd, gitâr drydanol, omnicord a recordiadau maes. Mae ei cherddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan bobl fel Alice Coltrane, Kate Bush a Terry Riley ac mae’n ymgorffori seicedelia, byrfyfyrio rhydd, gwerin, pob breuddwydion, drôn, trosgynoliaeth, y gair llafar a chariad tuag at ddylunio seiniau ffuglen wyddonol i greu tirlun ymdwythol yn llawn gwyfynod wedi’u llofruddio, argaeau adfeiliog a dirweddau prismatig.
Drysau’n agor am 19:00.
Tocynnau
£7, dim seddi cadw.
Bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Categories