Date/Time:
Date(s) - 03/10/2018
7:30 pm
Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau yn Abertawe sy’n arddangos cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyrio rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, gwerin amgen a cherddoriaeth newydd. Fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe eleni, mae cydweithrediad gyda NAWR yn dod â thri chyngerdd cyfareddol ac unigryw i’r ŵyl.
Bydd NAWR yn cynnal eu cyngherddau yn Stiwdios PCDDS Abertawe yn neuadd hanesyddol y BBC, gem gudd ymysg neuaddau cyngerdd Abertawe ac un o’r gofodau gwrando gorau yng Nghymru. Maen nhw’n anelu at gynnig gofod agored a myfyrgar i gynulleidfa gael profiad o gerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar a chlos.
Bydd Angharad Davies a Lee Patterson a Susan Matthews ac Ian Holloway yn perfformio yn ail gyngerdd y gyfres.
Angharad Davies
Feiolinydd o Gymru yw Angharad Davies sy’n gweithio gyda byrfyfyrio rhydd, cyfansoddiadau a pherfformio. Mae ei hymdriniaeth o sain yn cynnwys gwrando sylwgar ac archwilio y tu hwnt i ffiniau sonig ei hofferyn, ei hyfforddiant clasurol a’i disgwyliadau o ran perfformiad.
Mae llawer o’i gwaith yn golygu cydweithio. Mae wedi bod yn rhan o ddeuawdau wedi eu hen sefydlu gyda Tisha Mukarji, Dominic Lash a Lina Lapelyte ac mae’n chwarae gydag Apartment House, Cranc, Common Objects, band Richard Dawson a Skogen. Mae hi wedi cymryd rhan mewn prosiectau gyda Tarek Atui, Tony Conrad, Laura Cannell, Jack McNamara, Eliane Radigue, Juliet Stephenson a J.G.Thirlwell.
Mae hi wedi rhyddhau recordiau ar Absinth Records, Another Timbre, Potlatch a Confrontrecords a chafodd ei halbwm Ffansion | Fancies i bleidleisio yn y 12 albwm gorau ar gyfer Late Junction Radio 3.
Lee Patterson
Mae Lee Patterson yn byw ac yn gweithio yn Prestwich, Manceinion. Gan ddefnyddio ei ymarfer cyfochrog o recordio sain fel ffurf ar hyfforddiant i’r clustiau, mae’n perfformio’n fyw gyda detholiad o ddyfeisiau a phrosesau seinchwyddo. O sialc creigiau i ffynhonnau, o losgi cnau i fetel yn dirgrynu, mae’n chwarae gyda gwrthrychau sydd fel arall yn cael eu hystyried yn rai mud yn ei ymdrechion i ddeall a dehongli ei amgylchedd drwy wahanol ffyrdd o wrando. Mae ei agwedd amgen tuag at gynhyrchu sain wedi arwain at gydweithio gyda llu o artistiaid a cherddorion rhyngwladol. Mae ei waith wedi bod ar deledu’r DU, Radio 3, 4 a 6 y BBC, Resonance FM ac ar orsafoedd radio ledled y byd.
Susan Matthews
Mae Susan Matthews yn gyfansoddwr/cerddor o Gaerfyrddin sy’n adnabyddus am ei harmonïau dwys, uchelgeisiol a hypnotig a’i chreadigaethau sain ddiwydiannol. Dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth arbrofol, gafodd ei ddisgrifio gan d/a73 fel ‘…haniaethau llachar o ras a harddwch’ yn y 1990au ac mae wedi datblygu CV cynhwysfawr o gyflawniadau yn cynnwys rhyddhau dros 50 CD, gweithiau oriel, gwaith mewn gwyliau cerddoriaeth, preswyliadau artist, perfformiadau byw, traciau sain ffilm, darllediadau radio, a hynny gartref a thramor.
Yn 2005 sefydlodd y label recordio annibynnol Siren Wire Recordings sy’n arbenigo mewn rhyddhau CDs cyfyngedig o waith llaw gan artistiaid arbrofol wedi eu dewis yn ofalus o bob cwr o’r byd. Mae hi hefyd wedi recordio ar gyfer Tursa, Apollolaan, Sonic Oyster Records, Earth Monkey Productions, Wild Silence, Pilot Eleven a d/a73.
Mae hi wrth ei bodd yn cydweithio ag eraill ac mae wedi gwneud hynny’n llwyddiannus gyda llawer o’i hoff artistiaid, yn cynnwys Tony Wakeford (DU, gyda Sol Invictus a hefyd fel Window Tappers), Rainier Lericolais (Ffrainc), Clint Newton (UDA, fel Harme), Clutter (DU), The Dead Mauriacs (Ffrainc), Ian Holloway (Cymru), Thorsten Soltau (Yr Almaen), Alistair Crosbie (Yr Alban), Yokna Patofa (Siapan), Nick Grey (Monaco) a Fabrizio Modonese Palumbo (Yr Eidal).
Yn 2017 fe gydsefydlodd y Divergent Contemporary Art Collective sydd wedi arddangos yng Nghaerfyrddin, Abertawe ac Oslo.
Ian Holloway
Mae Ian Holloway yn gerddor sy’n gweithio o Abertawe; mae ei waith yn cwmpasu drôn, recordiadau maes, seiniau hapgael diwydiannol, ysbrydoleg a radioffoneg. Ers 2003 mae Ian wedi gweinyddu’r label Quiet World gan ryddhau ei waith ei hun a gwaith cerddorion megis y maestro ysbailffonig o Texas Colin, Andrew Sheffield, y cerddor amgylchol o Efrog Newydd, Mike Fazio a chyfansoddwr chwedlonol Fluxus, Philip Corner.
Ynghyd â’i waith fel unawdydd mae Ian wedi recordio a pherfformio mewn cydweithrediad â cherddorion fel y pianydd a’r cyfansoddwr Susan Matthews, y cerddor drôn Darren Tate, y recordydd maes Banks Bailey, y gwneuthurwr ffilmiau Rhodri Thomas a’r artist Tessa Garland ac mae wedi rhyddhau albymau amrywiol i labeli megis Siren Wire, Fungal, Phonospheric, Bivouac, Agharta, Persepolis ac eraill.
Mae Ian hefyd yn gyfrifol am weinyddu blog a siop lyfrau Wyrd Britain.
Drysau’n agor am 19:00.
Tocynnau
£7, dim seddi cadw.
Bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English