Date/Time:
Date(s) - 26/07/2018 - 28/07/2018
8:00 pm
A Love Letter to the NHS. Rhan o Ŵyl NHS70.
National Theatre Wales
Wedi ei ysgrifennu gan Roy Williams
Cyfarwyddwyd gan Paulette Randall
Jamaica, 1952 ac mae gan Gloria, 27, freuddwyd. Mewn gwirionedd, mae’n fwy na hynny. Mae ganddi weledigaeth. Nerth. Galwedigaeth. Mae am adael popeth ar ei hôl, y cyfan y mae wedi ei adnabod, a theithio miloedd o filltiroedd i ateb galwad y DU, sydd dal mewn cyflwr truenus ar ôl y rhyfel, ac mae am fod yn nyrs.
Pan mae’n cyrraedd yno – ac Abertawe yw’r yno hwnnw – does dim byd fel y meddyliodd y byddai, ond ‘dyw Gloria ddim yn fenyw i roi’r gorau i’w breuddwydion yn rhwydd iawn.
2018. Mae Judy, wyres Gloria, yn nyrs yn Abertawe. Fe dyfodd hi yn clywed straeon ei Mam-gu ynghylch gweithio yn yr ysbyty, ac yn dymuno bod jyst fel hi. Er mawr ddiflastod i Judy, mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall wedi sigo ei GIG annwyl a bellach mae’r gwasanaeth ar ei liniau. Mae llawer yn sicr wedi newid ers dydd Gloria, a dim un peth er gwell.
Heddiw, mae Judy ar fin rhoi’r gorau i’r cwbl lot, ar fin rhoi’r gorau i nyrsio. Mae yna obaith egwan fodd bynnag, os gall hi ail-danio’r angerdd a fu ganddi am y gwaith, cofio’r storïau a rannwyd gan ei mam-gu yna mae yna bosibilrwydd bach …. y bydd hi’n dod yn ôl fory.
Mae’r sioe un fenyw ddoniol a theimladwy hon yn dod â bywydau dwy fenyw wahanol iawn yn fyw, y maent ill dwy yn rhannu’r un alwedigaeth a’r un cariad tuag at sefydliad unigryw, gyda hwnnw wedi ei danio yma yng Nghymru.
Tocynnau
£15, £10 consesiynau
Perfformiadau Hygyrch
I’w cadarnhau. Cysylltwch â boxoffice@nationaltheatrewales.org os oes gennych unrhyw gwestiynau, os gwelwch yn dda.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw tocynnau cadair olwyn ar gael ar-lein – i archebu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 02920371689
Canllaw oed: 14+
Matinee: Dydd Sadwrn 28 Gorffenaf, 5pm
Categories