Date/Time:
Date(s) - 01/03/2019
6:30 pm - 10:00 pm
Location: GS Artists Swansea
Mae GS Artists yn eich gwahodd i noson o ddathlu’n nawddsant – Dewi Sant.
Bydd y noson yn cychwyn am 6.30pm gyda’r gyntaf o’n sgyrsiau Cymraeg, cyfres newydd o ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith yn yr oriel o’r enw ‘Mynegiant’. Bydd Tomos Sparnon yn cyflwyno sgwrs fer ddarluniadol yn canolbwyntio ar Fynegiant mewn celfyddyd Gymreig, gan gynnwys myfyrdodau ar y sioe bresennol ar yr adeg honno gan Tim Davies. Anogir cwestiynau a sgyrsiau yn Gymraeg ond cynigir cyfieithiadau. Y nod fydd dysgu rhai geiriau newydd ond mewn ffordd ysgafn, wedi’r cyfan, mae’n nos Wener: )
Yna bydd y direidi’n dechrau, caiff yr hualau eu rhyddhau a bydd ein DJ yn dechrau troelli. Rydym wrth ein boddau o gael Catrin Saran James a’i chyfeillion a fydd yn perfformio’u casgliad o gerddoriaeth Gymreig.
Bydd bwyd a diod ar gael.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English