Date/Time:
Date(s) - 03/10/2018
7:30 pm
Location: Canolfan Celfyddydau Taliesin
Opera Cenedlaethol Cymru / Welsh National Opera yn cyflwyno Rhondda Rips It Up! gyda Madeleine Shaw a Lesley Garrett.
Boneddigion a Boneddigesau! Mae WNO yn eich gwahodd yn gynnes i Bremière Byd eu comedi cerddorol afieithus ac anfarwol o ddigrif Rhondda Rips It Up!
Crëwyd yr adloniant tafod yn y boch hwn er eich pleser gan y disglair Ms Elena Langer (cyfansoddwr a swffragét) a’r dihafal Ms Emma Jenkins (libretydd a swffragét).
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fynd â chi ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau arwres anhysbys mudiad y Swffragetiaid yng Nghymru, Margaret Haig Thomas, Is-iarlles Rhondda.
Yn Swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur, paratôdd yr Arglwyddes Rhondda y ffordd ar gyfer hawliau cyfartal i fenywod. Yn ogystal ag ymgyrchu’n ddiflino dros hawl menywod i bleidleisio, roedd yn fwch dihangol i ymdrechion merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goroesodd drychineb suddo’r Lusitania a sefydlodd y cylchgrawn ffeministaidd radicalaidd Time and Tide. Cafodd ei hymdrechion diflino eu gwobrwyo o’r diwedd pan, yn 1918, etholfreiniwyd menywod dros 30 oed.
Mae’r daith fywiog a doniol hon drwy fyd etholfraint a chân yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y neuadd gerddoriaeth ac yn addas iawn, menywod yn unig yw aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. Tywysir y gynulleidfa drwy’r stori gan ein Emcee ni (Lesley Garrett) ac mae’n olrhain anturiaethau Lady Rhondda (Madeleine Shaw) a’r fyddin ddewr o swffragetiaid wrth iddynt ymgiprys yn eofn ag Arglwyddi, gwleidyddion a blychau post yn eu hymdrech i sicrhau hawliau i ferched.
Bydd WNO yn tynnu sylw at frwydr menywod dros ryddid a chydraddoldeb ac i oroesi, mewn nifer o ffyrdd: o ddigwyddiadau cymunedol, sgyrsiau a gweithdai mewn ysgolion i arddangosfeydd, profiadau digidol rhyngweithiol yn ogystal â’r cynhyrchiad ei hun.
Tocynnau
£18, seddi cadw
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English