Date/Time:
Date(s) - 17/06/2018
6:45 pm
Location: Dylan Thomas Theatre
Am dros chwarter canrif mae Pedwarawd James Taylor wedi gosod y safon ar gyfer y seiniau jazz asid ffynclyd mwyaf cŵl. Ar ddwsinau o albymau gwych ac yn eu sioeau enwog ym Mhrydain ac ar draws y byd, y nhw sy’n cael eu hystyried fel y gorau ymysg creadigrwydd Prydeinig amlwg.
Ond fel pob artist clodwiw, nid yw’n sefyll yn stond am gyfnod hir, a bellach mae diddordeb cerddorol angerddol James Taylor wedi arwain at y prosiect mwyaf uchelgeisiol a chyffrous yng ngyrfa ddisglair y pedwarawd. Gadwech i ni gyflwyno’r albwm newydd, ‘Closer to the Moon’, rhywbeth na fyddwch erioed wedi’i glywed o’r blaen. Yn ychwanegol at ei steil hynod afaelgar, mae’r pedwarawd wedi dod â bydoedd cerddoriaeth jazz a chlasurol ynghyd mewn ffordd glyfar ac annisgwyl.
O’r eiliad mae’r metronom yn dechrau cyfrif ar ddechrau’r gân ‘Tick Tock’ tan ddiwedd y gân ffilmol a llawn awyrgylch ‘Closer To The Moon’ y mae’r albwm wedi’i enw ar ei hôl, mae hwn yn brofiad gwrando unigryw ac yn garreg filltir nodweddiadol yng ngyrfa’r pedwarawd. Heb sôn am y ffaith ei fod yn cynnwys James yn perfformio fel prif lais am y tro cyntaf erioed ar ‘Closer To You’ a’i fod yn cynnwys piana sonata gan Beethoven.
Ar ‘Closer To The Moon’, a ryddhawyd ar Real Self, label Taylor ei hun, nid yw Hammond ffyddlon Taylor a chyrn hudolus y grŵp yn fodlon ar ddarparu ystod o ddanteithion jazz newydd yn unig. Trwy gydol yr albwm maent hefyd yn ymdrin ag amrywiaeth gwyllt o offerynnau clasurol megis selesta, fibraffonau, telyn, sither, gong, glockenspiel, hyd yn oed tiwbglychau, gyda llawer ohonynt wedi’u creu’n uniongyrchol ar gyfer arweinydd y band.
6.40pm
Tocynnau: £18
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Prynu tocynnau yma
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories