Date/Time:
Date(s) - 29/09/2017 - 30/09/2017
4:00 pm
Location: Swansea City Centre
Abertawe yw’r unig le yng Nghymru sy’n gallu chwifio’r Faner Borffor, felly’r mis Medi hwn rydym yn dathlu #PenwythnosMawrAbertawe!
Mae amrywiaeth o bethau i’w gwneud ar noson allan yng nghanol dinas Abertawe sy’n addas i’r teulu cyfan, a diben Penwythnos Mawr Abertawe yw’ch cyflwyno chi i bob un ohonynt! Bydd perfformiadau theatr, marchnadoedd stryd, ffilmiau, cerddoriaeth a digwyddiadau, cynigion gan fwytai, dawns, gemau, comedi, gweithgareddau chwaraeon a llawer mwy! A chan mai Abertawe yw’r unig le yng Nghymru sy’n gallu chwifio’r Faner Borffor, rydych yn sicr o fwynhau noson o adloniant diogel lle bynnag yr ydych.
Adloniant Stryd
Adloniant stryd gyda dawnsio, cerdded ar stiltiau, jyglo tân, gitâr glasurol, sioeau swigod, bandiau drymiau ac amrywiaeth o berfformiadau cerddorol ar Lwyfan Haf Creative Bubble. Prosiect gan PCYDDS/BID Abertawe yw Llwyfan Canu yn y Stryd Creative Bubble. Bydd Creative Bubble yn ffarwelio â thymor prysur yr haf trwy ymddangos ar Stryd y Gwynt fel rhan o Benwythnos Mawr Abertawe. Bydd y llwyfan yn arddangos doniau gwych rhwng 4pm ac 8pm ar y nos Wener a’r nos Sadwrn. Mae’r casgliad amrywiol o berfformwyr yn cynnwys: Eleri Angharad, Gracie Richards, Ragsy, Tom Martin a Sam Gardner.
Marchnad Bwyd Stryd Penwythnos Mawr Abertawe
Fel rhan o’r dathliadau, mae Urban Foundry (y tîm sy’n gyfrifol am Farchnad Uplands ac Unit Nineteen) wedi trefnu marchnad bwyd stryd o flaen Castell Abertawe. Ar agor rhwng 4pm ac 8pm bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o fwydydd blasus. Wedi’u cadarnhau hyd yn hyn mae: Babita’s Spice Deli (byrbrydau o Ogledd India), Taste of Persia (wrapiau falafel a seigiau Perseg), The Meat & Greet Co (seigiau cigog arbennig), La Chandeleur Crepes (crempogau melys a sawrus), Ele’s Little Kitchen (tapas a phaëla Sbaenaidd) Sam’s Meat Roasts (byrgyrs ffres), Hoogah (pretsels wedi’u llenwi a rholiau selsig), Gower Seafood Hut (pysgod a bwyd môr wedi’u coginio’n ffres), Popty Pizza (pizza a wneir yn ffres mewn ffyrnau tân coed), Twister Chips (a chŵn poeth) a The Wonder Bar (cyrfau, seidr a choctels).
Sinema Rhyngweithiol Byw
Ymunwch yn yr hwyl yn Sgwâr y Castell ar 30 Medi gyda pherfformiad awyr agored rhyngweithiol o ‘Grease’ ar y sgrîn fawr! Dewch i wylio’r sioe gerdd enwog yn dod yn fyw gyda chymeriadau o Ysgol Berfformio Mark Jermin, ac ymunwch yn y canu wrth i’r ffilm gael ei dangos ar y sgrîn fawr!
Pwynt Gwybodaeth – Lle Diogel
Bydd y Pwynt Gwybodaeth – Lle Diogel, sydd wedi’i staffio gan yr Heddlu, Bugeiliaid y Stryd a staff BID Abertawe ac sydd wedi’i gefnogi gan Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, ar gael ar ben Sgwâr y Castell o 10pm tan 4am nos Sadwrn 30 Medi. Bydd y staff ar gael i’ch helpu drwy’r nos i sicrhau eich bod yn mwynhau noson ddiogel a difyr!
Lawrlwythwch y rhaglen Adloniant Stryd lawn!
Gŵyl Ymylol Abertawe
Fel rhan o Benwythnos Mawr Abertawe, bydd Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd rhwng 29 Medi ac 1 Hydref! I ddechrau penwythnos cyntaf Gŵyl Ryngwladol Abertawe, bydd yr Ŵyl Ymylol yn cynnig rhai o ddoniau gwahanol gorau Cymru – comedi a cherddoriaeth, barddoniaeth a drama – yn fyw mewn lleoliadau ar y Stryd Fawr, Stryd y Castell a thu hwnt. Ar ôl bod i ffwrdd yn llawer rhy hir, mae wedi dychwelyd, yn fwy ac yn well nag erioed – gyda nifer enfawr o ddigwyddiadau arbennig mewn lleoliadau ar y Stryd Fawr a Stryd y Castell.
Mae tocynnau ar gael gan Eventbrite yma
Cynllunio’r Penwythnos Mawr delfrydol? Defnyddiwch ein map rhyngweithiol isod i ddarganfod yr hyn sy’n digwydd ac ym mhle. Cliciwch ar y lleoliadau i ddarganfod yr hyn sy’n digwydd ynddynt! I gael mynediad i’r allwedd, cliciwch ar y saeth/eicon ffenestr ar yr ochr chwith uchaf, cyn ‘Penwythnos Mawr Abertawe’. I weld y map ar ffurf sgrîn lawn, cliciwch ar yr eicon bocs ar yr ochr dde uchaf.
Categories No Categories