Date/Time:
Date(s) - 19/11/2017
5:00 pm - 7:30 pm
Location: Swansea City Centre
Bydd penwythnos penigamp o hwyl yr ŵyl yn lansio dathliadau Nadolig Abertawe y mis nesaf, gan ddechrau gyda Gorymdaith y Nadolig.
Yn ogystal â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn agor ym Mharc yr Amgueddfa nos Wener, 17 Tachwedd, bydd y farchnad Nadoligaidd yn dychwelyd i Stryd Rhydychen ddydd Gwener 17 Tachwedd a chynhelir Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig nos Sul, 19 Tachwedd.
Fe’i trefnir gan Gyngor Abertawe, a bydd gorymdaith eleni’n cael ei hysbrydoli gan ffilmiau’r Nadolig a’r gaeaf. Dyma un rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ‘Y Nadolig yn Abertawe’ sy’n llawn miri’r ŵyl.
Bydd bandiau’n gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau o ffilmiau Nadoligaidd, offer chwyddadwy anferth ar thema’r ŵyl, coblynnod sy’n dawnsio ac wrth gwrs bydd Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig yng Ngorymdaith y Nadolig yn Abertawe.
Gan ddechrau o Ganolfan Dylan Thomas, bydd y daith yn parhau drwy Stryd y Gwynt, y Stryd Fawr a Stryd y Berllan. Yna bydd yr orymdaith yn cyrraedd Ffordd y Brenin lle bydd Siôn Corn yn oedi am gyfnod i gynnau goleuadau’r Nadolig cyn parhau ar hyd Ffordd y Brenin.
Dewch draw i wylio a chodi llaw ar Siôn Corn wrth iddo deithio drwy ganol y ddinas a chynnau goleuadau’r Nadolig. Bydd yr holl blant (mawr a bach!) yn sicr yn teimlo hwyl yr ŵyl ar ôl noson hudol yn nigwyddiad Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau’r Nadolig yn Abertawe.
Gan ddechrau am 5pm, bydd gorymdaith y Nadolig yn gorffen yn ardal Ffordd y Brenin.
Llwybr yr Orymdaith
Cau Ffyrdd
Bydd rhaglen dreigl cau ffyrdd ar waith rhwng 3pm a 8pm i hwyluso Gorymdaith y Nadolig;
- East Burrows Road O’i chyffordd â Somerset Place i’w chyffordd â Cambrian Place
- Somerset Place Ar ei hyd cyfan
- Ferry Side Ar ei hyd cyfan
- Bath Lane Ar ei hyd cyfan
- Adelaide Street O’i chyffordd â Bath Lane a Somerset Place
- Victoria Road/Quay Parade O’r gyffordd â Wind Street, wrth i’r orymdaith groesi rhwng Somerset Place a Wind Street. Bydd hyn am gyfnod byr yn unig a gwneir mewn blociau fel bod traffig yn gallu parhau i lifo.
- Wind Street Ar ei hyd cyfan
- Caer Street Ar ei hyd cyfan
- Castle Bailey Street Ar ei hyd cyfan
- Castle Street Ar ei hyd cyfan
- College Street Ar ei hyd cyfan
- High Street O gyffordd College Street i’r Orsaf Drenau yn Ivey Place
- Alexandra Road O gyffordd High Street ac Orchard Street
- Orchard Street i’r gyffordd â Kingsway (lôn bysus a thacsis)
- The Kingsway I gyffordd Dillwyn Street (lonydd bysus a thacsis i gyfeiriad y gorllewin)
- Dillwyn Street I gyffordd Wellington Street
- Singleton Street Dod i ben ym Maes Parcio Theatr y Grand
Categories No Categories