Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 29/09/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Volcano Theatre
Mae Philip Cheater, yr artist o Abertawe, yn gweld byd sydd ar fin wynebu digwyddiad a allai fod yn gwbl drychinebus. Wrth edrych yn ôl ar achosion o wrthdaro yn y gorffennol a’r tryblith a ddilynodd, sut y gall ein dinasoedd a llefydd eraill wneud cynnydd? Wrth inni adeiladu’n uwch i’r awyr, ac wrth inni droedio concrid prysurach, mae ein dinasoedd anferth wedi peri inni anghofio am ein hanghenion ecolegol.
Gosodiad yw On the Brink sy’n dangos dylanwad mudiad Fortisiaeth cyfnod y Rhyfel Mawr. Gan ddefnyddio siapiau trwm a lliwiau beiddgar i ddarlunio ein hamgylcheddau trefol a’n brwydr gynyddol, ddidrugaredd yn erbyn natur, bydd cyfres o gylchgronau print gan Steph Mastoris yn wrthbwynt i hyn, a’r rheini wedi’u hysbrydoli gan gylchgronau llenyddol BLAST a gyhoeddwyd rhwng 1914/15 a Chynhadledd Heddwch y Plant sydd i’w chynnal yn Abertawe fel rhan o Nawr Yr Arwr.
Mynediad
Am ddim. Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 10am – 5pm.
Categories