Date/Time:
Date(s) - 09/09/2017
4:00 pm
Location: Parc Singleton
Ar 9 Medi, bydd Proms yn y Parc y BBC yn dychwelyd i Abertawe!
Bydd Parc Singleton yn cynnal Proms yn y Parc am y ddeuddegfed tro, gan gysylltu â Neuadd Albert am noson olaf y Proms.
Prif berfformiwr y digwydd blynyddol fydd y gantores enaid, Mica Paris, a fydd yn perfformio rhai o glasuron Ella Fitzgerald.
Yn ogystal, bydd Cerddorfa Genedlaethol a Chorws Cymreig y BBC yn perfformio llu o ffefrynnau adnabyddus o’r byd ffilmiau a theledu, ynghyd â chaneuon Cymreig traddodiadol.
Bydd Rebecca Trehearn, y soprano o Gymru sy’n seren yn y West End ac sydd wedi ennill Gwobr Olivier yn ddiweddar, yn dod i’r llwyfan hefyd, yn ogystal â’r sacsoffonydd Jess Gillam, a gyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y BBC yn 2016.
Gallwn ddatgelu mai cyflwynwyr Proms yn y Parc y BBC eleni fydd Josie d’Arby a Tim Rhys-Evans.
Darperir adloniant cyn y cyngerdd gan The Amigos Gypsy Jazz Orchestra.
Dyma un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd ac rydych yn siŵr o gael noson anhygoel gyda cherddoriaeth ac awyrgylch gwych, ffefrynnau teuluoedd ac, wrth gwrs, yr arddangosfa tân gwyllt draddodiadol i gau’r digwyddiad.
Bydd arlwyo a bar ar gael ar y noson fel y gellir prynu bwyd a diod.
Tocynnau
Tocynnau Cynnar £12.50 (Daw’r cynnig Tocynnau Cynnar i ben ar 31 Gorffennaf 2017)
Ymlaen Llaw £16
Ar y Diwrnod £18
Parcio
Gweler y map parcio yma
Y ddau faes parcio agosaf y gallwch eu defnyddio ar y diwrnod fydd:
Parc Singleton (mynediad Lôn Sgeti, gyferbyn â Phlas Sgeti) a maes parcio gorlif Ysbyty Singleton.
Bydd lleoedd parcio i’r anabl ar gael ym maes parcio Parc Singleton, sylwer bod rhain ar laswellt.
Mae’r holl feysydd parcio am ddim.
Categories No Categories