Date/Time:
Date(s) - 30/09/2018
10:45 am - 2:30 pm
Location: Lido Blackpill
Y RHESWM DROS WNEUD HYN
Mae madredd yn achosi marwolaethau a morbidrwydd sylweddol. Mae nifer o bobl yn dioddef o fadredd yn dilyn heintiau amrywiol. Mae’n hanfodol atal dirywio trwy adnabod symptomau’n gynnar a thrwy driniaeth addas.
Mae’r ymyriadau sy’n sylfaenol ac yn syml yn ffurfio’r “Sepsis Six” – monitro allbwn ocsigen, meithrin gwaed, gwrthfiotigau, hylifau, lactad a hemoglobin a throeth.
Dechreuodd Adran Argyfwng Treforys (ED) ymgyrch ymwybyddiaeth madredd yn ED yn 2015 er mwyn ceisio hyrwyddo adnabod madredd yn gynnar trwy ddefnyddio offeryn sgrinio madredd mewn Adran Argyfwng brysur. Erbyn hyn maent wedi tyfu ac maent yn ymrwymo i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg holl staff Ysbyty Treforys ynghyd â’r Tîm Madredd. Mae grŵp SeGMED wedi llwyddo i drefnu tri diwrnod Ymwybyddiaeth Madredd fel sesiynau galw heibio sydd wedi cael ymateb da.
Eu harwyddair yw “Ysbrydoli, addysgu a hyrwyddo cydnabyddiaeth, triniaeth a rheolaeth madredd yn gynnar”.
Mae SeGMED (Grŵp Madredd Adran Argyfwng Treforys) yn falch o gyhoeddi ras madredd 6k Cymru.
Bydd yr arian a godir yn y digwyddiad hwn yn mynd tuag at Adran Argyfwng Treforys a chaiff ei defnyddio ar gyfer addysg, offer a chefnogi rhagor o ddiwrnodau a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth o fadredd yn yr ysbyty ac yn y gymuned.
Cyfrannwch at yr achos teilwng hwn a helpwch i atal madredd.
MADREDD – ADNABOD YN GYNNAR, TRIN YN GYNNAR, ACHUB BYWYDAU
Bydd y digwyddiad ar lwybr 3k GWASTAD. Bydd yn dechrau yn ardal Blackpill ac yn mynd ar hyd y llwybr beicio ar hyd glan môr Abertawe at faes parcio Ystumllwynarth ac yn ôl.
Bydd y llwybr sydd wedi’i drefnu’n addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a bydd mynediad i bobl anabl.
Cwestiynau Cyffredin
Ydy’r digwyddiad yn cael ei amseru? – Nid ras yw hon felly ni fyddwn yn amseru pobl ond bydd croeso i chi geisio amseru’ch hun trwy ddefnyddio systemau GPS neu ap ar eich ffôn symudol.
Oes unrhyw ofynion adnabyddiaeth neu isafswm oedran er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad? – Nac oes, ond bydd angen i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Nid oes angen dull adnabod ond bydd angen i bob rhedwr gofrestru.
Beth gallaf ddod ag ef i’r digwyddiad? – Dylech ddod â dillad addas ac esgidiau sy’n briodol ar gyfer y tywydd ar y diwrnod.
Croeso i chi ddod mewn gwisg ffansi.
Sut alla i gysylltu â’r trefnydd er mwyn gofyn cwestiwn? – E-bostiwch sepsis6krun@gmail.com ar unrhyw adeg
Beth yw’r polisi ad-dalu? – Ni dderbynnir ad-daliadau
A fydd angen i mi ddod â fy nhocyn wedi’i argraffu i’r digwyddiad? – Rydym yn argymell dod â chopi, neu gopi ar eich ffôn symudol i gofrestru er mwyn osgoi unrhyw broblemau.
A fydd yn iawn os nad yw’r enw ar y tocyn neu’r cofrestriad yn cyd-fynd â’r person sy’n dod? – Bydd, os ydych yn rhoi gwybod i ni 14 diwrnod cyn y digwyddiad.
Parcio ceir.
Bydd maes parcio Blackpill ar gael (ond bydd lleoedd yn brin a gellir codi tâl).
Gofynnwn i’r rhai sy’n dod i’r digwyddiad yrru’n ofalus oherwydd gall ychydig o leoedd fod ar gael yn y maes parcio gerllaw. Ni fyddwn yn cadw unrhyw fath o gyfleusterau parcio ar gyfer y digwyddiad hwn.
Rhowch wybod i staff am unrhyw gyflyrau meddygol wrth i chi gyrraedd, oherwydd bydd angen nodi’r rhain ar gefn eich rhif rhedeg a bydd angen cadw’r wybodaeth hon gyda chi trwy gydol y digwyddiad.
Bydd staff meddygol ar gael er mwyn trin unrhyw anafiadau yn ystod y digwyddiad.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 12:30pm
Bydd hwnt-gychwyn ar ddechrau’r ras, er mwyn i redwyr fynd yn gyntaf, yna’r bobl sy’n bwriadu cerdded y llwybr.
*GALLWCH GOFRESTRU O 10:45AM YN LIDO BLACKPILL*
*BYDD ANGEN COFRESTRU CYN 12:10PM*
Cofrestwch ar-lein nawr
Argymhellir eich bod yn cyrraedd mewn da bryd er mwyn sicrhau nad ydych yn colli’ch cyfle.
Ni fyddwn yn amseru’r digwyddiad!
E-bostiwch sepsis6krun@gmail.com am fwy o wybodaeth
****PWYSIG**** rhoddir medal i’r rhai sydd wedi cofrestru’n unig.
Bydd ffotograffau o’r digwyddiad hwn er mwyn hysbysu ymhellach ar gael ar ein tudalen Facebook a’n cyfrif Twitter, felly chwiliwch amdanom a dilynwch ni.
Facebook: SeGMED1
Twitter: @SeGMED1
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English