Dewch i ddringo, cropian a llithro’ch ffordd o amgylch y cwrs rhwystrau Pretty Muddy® ar eich cyflymder eich hun.
Mae 5k ychydig dros 3 milltir a gall gymryd tuag awr i’w gwblhau ar gyfartaledd, ond does dim pwysau i orffen o fewn amser penodol – cael hwyl yw’r nod!
Gallwch gael hwyl yn y mwd fel unigolyn neu gyda grŵp o ffrindiau neu deulu, ac ymddwyn fel plentyn mawr er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil canser achub bywydau.
Mae llwybr Pretty Muddy Abertawe’n llwybr golygfaol drwy Barc Singleton poblogaidd. Mae’r llwybr yn cynnwys tir cymysg a gwrthrychau, gan greu digwyddiad cyffrous a bywiog gydag awyrgylch ardderchog.
Ni fydd unrhyw orsafoedd llenwi poteli dŵr ar hyd y llwybr felly os oes angen dŵr arnoch yn ystod y digwyddiad, cofiwch ddod â’ch potel ailddefnyddadwy eich hun sydd eisoes wedi’i llenwi. Gallwch ail-lenwi’ch potel wrth yr orsaf ail-lenwi ar ôl i chi orffen.
Bydd angen cyrraedd 15 i 20 munud cyn eich amser dechrau fel eich bod wedi paratoi ac yn barod i ddechrau ar amser.
Mae ein cyrsiau wedi cael eu mesur ag olwyn fesur. Dyma’r dull mwyaf cywir o fesur ac ni fydd bob amser yn cyfateb i apiau ac oriorau olrhain digidol.
I fod yn rhan o’r digwyddiad, mae’n rhaid i chi fod yn 13 oed neu’n hŷn ar adeg eich digwyddiad. Mae gennym rywbeth arbennig i’n cyfranogwyr ieuengaf hefyd – cymerwch gip ar ein digwyddiadau Pretty Muddy® Kids i blant 12 oed ac yn iau!
Pretty Muddy Kids
Mae Pretty Muddy® Kids yn cynnwys cwrs rhwystrau difyr a mwdlyd i blant 6-12 oed (dros 1.2m o uchder).
Mae’r plant ifanc sydd am godi arian yn dringo, yn cropian ac yn llithro’u ffordd o amgylch y cwrs ar eu cyflymdra eu hun, yng nghwmni oedolyn.
Mae’r cwrs tua 5k o hyd, sef ychydig dros dair milltir, a does dim pwysau i orffen o fewn amser penodol. Paratowch i fod yn fwdlyd a chael diwrnod mas bythgofiadwy!
25 Mai 2024
11:00am - 13:00pm