Date/Time:
Date(s) - 28/04/2018
10:00 am
Location: Bae Abertawe
Mae Ras Enfys Tŷ Hafan yn wahanol i unrhyw un arall. Cewch eich gorchuddio o’ch corun i’ch sawdl yn ein ras lliw 5k lle bydd lliwiau’r enfys yn cael eu taflu dros y cyfranogwyr ar hyd y llwybr!
Nid oes yn rhaid i’r rheiny sy’n cymryd rhan redeg hyn yn oed; gallant gerdded, neidio neu hyd yn oed dawnsio eu ffordd i’r llinell derfyn. Y prif nod yw cael digon o hwyl a chreu atgofion!
Elusen Gymreig arweiniol yw Tŷ Hafan i blant sy’n rhoi cysur, gofal a chefnogaeth i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, ynghyd â’r teuluoedd. Drwy ein hosbis bywiog a’n rhaglenni cymunedol amrywiol, rydym yn cynnig seibiannau gofal byr i deuluoedd, gan eu helpu i wneud y mwyaf o’r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd, gan greu atgofion gwerthfawr a sicrhau bod bywyd byr yn fywyd llawn.
Y tâl mynediad yw £13 yr un a bydd timau â phump neu fwy’n cael gostyngiad ac yn talu £10 yr un yn unig. Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn 5+ oed. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod cyfranogwyr yn codi o leiaf £50 o nawdd, gyda phlant dan 16 yn ceisio codi £20. Rydym yn cynnig cefnogaeth codi arian wych, ynghyd â syniadau i’ch helpu i godi arian. Ar ben hynny, bydd pob cyfranogwr sy’n cwblhau’r Ras Enfys yn cael medal!
Ceir parcio ar gyfer y digwyddiad ym maes parcio’r Rec yn Brynmill (SA2 0AU), sef maes parcio talu ac arddangos y cyngor. Rhannwch gar lle bo hynny’n bosib.
Bydd y man cofrestru ger y senotaff ar lannau Bae Abertawe
Cewch eich rhif ras a’r pecyn briffio ynghyd â’ch ymwadiad drwy’r post cyn y digwyddiad
Rhaid i gyfranogwyr ddod â’r ffurflen ymwadiad gyda nhw er mwyn cyflymu’r broses gofrestru.
Bydd cerddoriaeth, gemau, stondin bwyd a phaentio wynebau.
Mae holl lwybr y Ras Enfys ar y traeth, a rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Dewch i ddathlu a chefnogi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud wrth gael digon o hwyl gyda ffrindiau a theulu! Ewch ati i wneud y Ras Enfys unigryw!
Categories