Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 29/09/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Volcano Theatre
A hithau’n gyfarwydd â Phaneli’r Ymerodraeth ers ei dyddiau ysgol, mae Rose Davies wastad wedi gweithio â modelau yn nhraddodiad Brangwyn, a dechreuodd dynnu lluniau o Dave tua 10 mlynedd yn ôl pan oedd yn fyfyriwr ifanc yn y Fyddin Diriogaethol. Ers hynny, mae hi wedi datblygu corff mawr o waith am “Y Rhyfelwr”.
‘Wrth imi ei wylio’n datblygu o fod yn fachgen ifanc i fod yn rhyfelwr ar ei lawn dwf, mae’r broses hon wedi herio fy rhagdybiaethau personol, gwleidyddol ac artistig’.
Wrth ymgymryd â’i gwaith fel artist preswyl Nawr Yr Arwr yn stiwdios Elysium (Medi 10 – Hydref 13), bydd yr artist yn datblygu’r thema “Y Rhyfelwr” i lefel arall, drwy weithio gyda model fenywaidd hŷn a milwr sydd wedi ymddeol, a hynny ar raddfa anferth drwy greu gosodiad mewn stiwdio a fydd wedyn yn cael ei symud i’r Volcano am wythnos. Bydd hynny’n rhoi cyfle i’r cyhoedd ei gweld wrth ei gwaith go iawn, a bydd hi hefyd yn rhoi sgwrs am feichiogrwydd a datblygiad Y Rhyfelwr.
Mynediad
Am ddim. Dydd Llun – Dydd Sadwrn, 10am – 5pm.
www.scribblah.co.uk
www.volcanotheatre.co.uk
www.elysiumgallery.com
Categories