Date/Time:
Date(s) - 02/05/2019
7:30 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Noson o ddawns neuadd wedi’i hysbrydoli gan Strictly er mwyn dathlu PRIDE yn Abertawe.
Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yn Abertawe fel rhan o ddathliadau Pride Abertawe 2019!
Bydd gwesteion yn cael eu croesawu i Neuadd Brangwyn Abertawe â gwydraid ar thema Pride am ddim am noson o ddawnsiau amrywiol fel y fflamenco a’r ffocstrot a hwyl aruthrol!
Bydd cyplau poblogaidd a chlodwiw, o Abertawe yn arddangos eu symudiadau dawns neuadd gorau trwy’r American Smooth, y tango neu’r jeif ar y llawr ddawnsio lle byddant yn derbyn croeso gan gyflwynydd enwog yn ystod y noson wahanol hon o ddawnsio neuadd!
Bydd pob cwpl yn cael cymorth coreograffwr ac arbenigwr ddawns o Abertawe ac yna’n perfformio eu dawns a bydd y gynulleidfa’n pleidleisio er mwyn enwi enillwyr Abertawe Un Rhyw!
Bydd adloniant arall yn llenwi’r noson wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ac wrth i enillwyr tlws disglair Abertawe Un Rhyw gael eu cyhoeddi!
Bydd croeso i westeion ymuno â’r cystadleuwyr ar gyfer hwyl a sbri ar y llawr ddawnsio nes iddi gau.
Bydd hon yn noson ysblennydd i roi cychwyn campus Pride Abertawe 2019!
Bydd cystadleuwyr a chyflwynydd enwog yn cael eu cadarnhau’n fuan!
Tocynnau: £18.00 – £25.00
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English