Date/Time:
Date(s) - 31/05/2018 - 01/06/2018
8:00 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Tocynnau: £28.00
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Nid oes llawer o seddau ar ôl, ffoniwch 01792 475715 am fwy o wybodaeth ac i brynu tocyn.
Dyw Sarah Millican ddim yn deyrn. Mae’n dwlu ar drefn, dyna’i gyd. Mae hi hyd yn oed yn rheoli ei sylwadau sarhaus ei hun, chi’n gweld? Ydych chi’n trefnu’r nosweithiau mas? Ydych chi’n gyfrifol am y pasbortau ar y gwyliau? Rydych chi yr un peth felly!
P’un a ydych yn trefnu’r tocynnau ar gyfer y sioe hon neu yn dilyn cyfarwyddiadau’n unig, croeso. Byddwch yn dysgu am Ddynion Achub, taro cnec mewn nicers ysbyty, beth all ddigwydd wrth gael eich mesur am fra, buddion caserol yn ogystal â syniadau am sut i siarad â gweithwyr siop a’r ffordd gywir o fwyta bisgïen.
Yn ddoniol, yn blwmp ac yn blaen ac heb unrhyw ymddiheuriadau am fod yn fochaidd!
Categories