Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 03/11/2018
12:00 pm - 5:00 pm
Location: Galerie Simpson
Mae’n fraint i Galerie Simpson gefnogi “Nawr Yr Arwr” gan Marc Rees gydag arddangosfa Simon Periton, “Your War, My Love” o’r darn o 1996 o’r un enw. Yn ogystal â’i banel anhygoel a wnaed â llaw, bydd Galerie Simpson yn arddangos nifer o bortreadau gwydr o chwith o dad-cu yr artist yn ei wisg filwrol o’r Rhyfel Mawr.
Astudiodd Simon (1964) yn Ysgol Gelf Central St Martin ac mae wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol. Ymhlith ei gomisiynau y mae prosiectau cerflunwaith cyhoeddus ar gyfer firstsite, Colchester, Essex, Channel Four ac Amgueddfa Victoria and Albert.
Bydd Galerie Simpson hefyd yn gweithio y tu allan i’r safle gyda Fiona Banner, sydd wedi cydweithio â’r oriel ers tro, ar ddarn mur newydd yn Abertawe (y lleoliad i’w gadarnhau). Bydd Banner, sydd wedi’i henwebu am Wobr Turner, yn creu rhywbeth i gyd fynd â’i sioe unigol “Buoys Boys” yn Oriel Mission. Bydd Simon hefyd yn arddangos “On Paper”, sy’n agor yn Oriel Glynn Vivian ar yr un noson.
Mynediad
Am ddim. Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12pm – 5pm.
Categories