Date/Time:
Date(s) - 18/11/2018
4:00 pm - 7:30 pm
Location: Swansea City Centre
Byddwch yn barod am antur wych wrth i Antur Siôn Corn drwy Amser gyrraedd canol dinas Abertawe!
Yn llawn hwyl a chyffro Nadoligaidd, bydd cwmnïau dawns dynamig, adloniant i deuluoedd, gorymdeithiau cerdded neu gyda cherbydau, corau, sioeau a llwyfannau trawiadol; ac, wrth gwrs, Siôn Corn ar ei sled newydd!
Bydd yr holl hwyl cyn y digwyddiad yn dechrau am 4pm gydag adloniant hudolus yng nghanol y ddinas. Yna, am 5pm, bydd y prif ddigwyddiad yn dechrau wrth i’r orymdaith ddechrau ar Ffordd y Dywysoges a symud i Stryd Caer a Stryd y Coleg cyn dod i ben ar Ffordd y Brenin. Bydd arddangosfeydd symudol gwych, yn cynnwys technoleg ac effeithiau arbennig anhygoel, gyda chorau, grwpiau dawns dynamig, cerddorion a chlowniaid byd enwog Tom a Pepe. Mae Antur Siôn Corn Drwy Amser yn cludo gwylwyr i Nadolig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Ond nid dyna’r cyfan…bydd hefyd bedwar arhosfan ar hyd y llwybr gyda llwyfannau ac adloniant gwych gan gorau a dawnswyr, ynghyd â chynnu’r goleuadau Nadolig ac ychydig o effeithiau arbennig!
Daliwch yn dynn…
…mae’n amser am antur!
Am fanylion llawn, gan gynnwys lleoliadau’r llwyfannau a’r llwybr, cadwch lygad ar y wefan hon a tudalen Facebook Nadolig Abertawe wrth gwrs.
Categories No Categories