Date/Time:
Date(s) - 06/10/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Where Rock’n’Roll Was Born – Sioe Gyngerdd Swyddogol Sun Records
Daw’r label recordiau sy’n gyfrifol am Elvis Presley, Lee Lewis, Johnny Cash, Roy Orbison, Carl Perkins, Rufus Thomas a llawer mwy yn fyw ar y llwyfan.
Dewch i ailymweld â’r stiwdio recordio lle crëwyd y sain nodedig rydym yn ei hadnabod ac yn dwlu arni heddiw gan y cynhyrchydd cerddoriaeth Sam Phillips a aeth ati i ddefnyddio dylanwadau cerddoriaeth gospel, blues, cân lloft stabal, canu gwlad, bwgi a swing.
Ei stiwdio arloesol yn Memphis oedd yn gyfrifol am y caneuon ‘That’s Alright Mama’, ‘Great Balls of Fire’, ‘I Walk the Line’, ‘Whole Lotta Shakin’, ‘Cat Blue’, ‘Blue Suede Shoes’ a ‘Good Rockin’ Tonight’… . cannoedd o ganeuon enwog a fyddai’n dylanwadu ar fyd cerddoriaeth am genedlaethau i ddod.
Roedd Sam Phillips yn ddyn amyneddgar a gonest, ac yn optimydd bythol. Ym 1954 cyfunodd cerddoriaeth Elvis Preseley, a oedd yn 19 oed ar y pryd, â cherddoriaeth Scotty Moore, Bill Black, a DJ Fontana i greu cerddoriaeth a oedd yn ysbrydoli cerddoriaeth wlad ac r’n’b.
Aeth y tu hwnt i unrhyw rwystrau cerddorol a hiliol. Ganwyd ‘The Sun Sound’.
Wedi’i hymarfer mewn atgynhyrchiad go iawn o’r Sun Studios, ac yn cynnwys offerynnau cerdd y cyfnod, daw’r Sound of Sun yn fyw ar y llwyfan yn y sioe gyngerdd swyddogol hon sy’n cynnwys cantorion a cherddorion ardderchog ac sy’n eich atgoffa o fan geni roc a rôl.
Wedi’i chefnogi gan the Sun Entertainment Corporation, UDA – hir oes i roc a rôl, . hir oes i Sun!
Tocynnau: £20.00 & £24.50 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English