Date/Time:
Date(s) - 06/10/2018
7:30 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Jenkins: For the Fallen
Jenkins: Lamentation for Syria (première byd a chomisiwn gan Ŵyl Ryngwladol Abertawe)
Jenkins: The Armed Man: A Mass for Peace
Uchafbwynt Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018 fydd cyngerdd gala cyffrous yn dathlu cerddoriaeth Syr Karl Jenkins a hynny dan arweiniad y dyn mawr ei hun.
Bydd yn rhannol yn myfyrio ar ganrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhannol yn ymateb i ryfeloedd ein cyfnod hi. Ymunwch â ni i glywed y bachgen o Benclawdd a dyfodd i fod y cyfansoddwr byw sy’n cael ei berfformio fwyaf yn y byd yn arwain The Armed Man: A Mass for Peace, For the Fallen (Gosodiad Syr Karl o waith enwog Laurence Binyon) a gwaith comisiwn newydd sbon ar gyfer yr Ŵyl eleni, Lament for Syria, yn seiliedig ar gerdd gan Amineh Abou Keresh, ffoadur 13 oed o Syria a enillodd Wobr Barddoniaeth Betjeman. Edrychwn ymlaen at groesawu Amineh a’i theulu i Abertawe ar gyfer y cyngerdd, gan ddathlu statws Abertawe fel Dinas Noddfa gyda’n gilydd.
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Corws Genedlaethol Gymreig y BBC, Kathryn Rudge (mezzo) ac Abel Salacoe (soddgrwth) yn ymuno â Syr Karl Jenkins.
Tocynnau
£18, £25 a £30, seddi cadw
Prynau Tocynnau
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English