Date/Time:
Date(s) - 15/10/2016 - 15/11/2018
All Day
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Image Credit: City and County of Swansea – Glynn Vivian Art Gallery Collection
Ystafelloedd 4 – 7
Richard Glynn Vivian oedd sylfaenydd ein horiel yn Abertawe. Wedi’i eni yn Abaty Singleton, roedd Glynn yn bedwerydd mab y teulu Vivian cefnog, perchnogion gwaith mwyndoddi copr mwyaf llwyddiannus y byd yn y 19eg ganrif.
Gadawodd Glynn ei gasgliad celf cyfan ‘er mwynhad pobl Abertawe’ ym 1908, ac agorodd yr oriel ym 1911, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth.
Bu Glynn Vivian yn casglu trwy gydol ei fywyd, gan deithio’n helaeth ar agerlongau a threnau, a chaffael gwrthrychau a gwaith celf o bob gwlad yr ymwelodd â hi. Mae Teithiau rhwng Celf a Bywyd yn cyflwyno ei gasgliad ac yn dathlu ei fywyd am y tro cyntaf mewn dros 100 mlynedd.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith JMW Turner (1775-1851) Storm Eira – Agerlong ger Mynedfa Harbwr, a arddangoswyd ym 1842, ar fenthyg hael o’r Tate.
Mae arweiniad amlgyfrwng digidol newydd yn ategu’r arddangosfa am Richard Glynn Vivian.
Lawrlwythwch am ddim, mae ar gael o iTunes a Google Play.
Cefnogir y prosiect yn hael gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Categories