Date/Time:
Date(s) - 26/07/2017
6:30 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Illyria yn cyflwyno Comedy of Errors gan William Shakespeare.
Yng nghomedi fyrraf, ddoniolaf a mwyaf hwyliog y bardd mae dau bâr o efeilliaid unwy, wedi’u gwahanu pan gawsant eu geni, yn cyrraedd yr un ddinas heb yn wybod iddynt. Trwy gyfres o gyfarfodydd ar hap, mae eu bywydau a synnwyr yn dechrau datod. Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu tynnu i chwyrlïad o gamadnabod, gan gynnwys swyddog sy’n cael ei dalu fesul arestiad, eurych sydd heb gael ei dalu o gwbl, masnachwr hwyr, putain llys ddig a dadreibiwr gwallgof. Heb anghofio’r wraig sy’n teimlo bod gan ei gŵr ddwy bersonoliaeth wahanol a mewnfudwr tlawd sy’n cael ei arestio am fod y cenedligrwydd anghywir. A beth yn union yw cyfrinach dywyll Abades Effesus? A fydd unrhyw beth yn gwneud synnwyr eto?
Grŵp eofn o 5 actor yw Illyria sy’n perfformio dramâu Shakespeare, yn eu cyfanrwydd, o’r Ffolio Gyntaf – yr argraffiad mwyaf awdurdodol o ddramâu Shakespeare. Rhan o’r hwyl gydag Illyria wrth iddyn nhw ruthro tuag at yr olygfa olaf yw ceisio deall sut ar wyneb y ddaear y gallan nhw gyrraedd y diwedd heb ragor o actorion! Mae’n gyflym, yn raenus a chaiff geiriau’r bardd eu hadrodd yn hyfryd (yn unigryw ymysg cwmnïau theatr awyr agored teithiol, mae cyfarwyddwr artistig Illyria wedi cyhoeddi erthyglau ar adrodd llinellau o fydr ac odl) ac mae ysgolheigion ar ddwy ochr Môr Iwerydd yn cytuno mai Illyria sy’n cyflwyno’r arddull perfformio mwyaf Elisabethaidd sydd i gael.
Ers 1992, maent wedi perfformio ym mhob cwr o’r DU – o Benrhyn Cothnais hyd Ben Tir Cernyw – a hefyd yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, y Swistir, UDA a Chanada. Dyma’r unig gwmni teithiol awyr agored i fod wedi ennill 4 gwobr ryngwladol ac maent yn llwyr haeddu cael eu hadnabod fel y gorau.
Argymhellir ar gyfer oedolion a phlant 5+ oed.
Hyd y perfformiad: 2 awr, gan gynnwys egwyl 20 munud
Tocyn oedolyn ymlaen llaw: £11 Safonol: £14
Tocyn consesiwn* ymlaen llaw: £8 Safonol: £11
Pasbort i Hamdden ymlaen llaw: £6 Safonol: £8
Tocyn teulu** ymlaen llaw: £38
*Consesiynau – Myfyrwyr, plant dan 16 oed a’r henoed sy’n 65 oed ac yn hŷn
**Mae tocyn teulu ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 chonsesiwn, ar gael ymlaen llaw’n unig.
Categories No Categories