Date/Time:
Date(s) - 01/11/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Teyrnged wefreiddiol i’r Electric Light Orchestra. Taith ‘Greatest Hits and More’ – 2018
Yn dathlu cerddoriaeth wych Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra. Nid oes angen sôn am yr etifeddiaeth a adawyd gan Jeff Lynne & The Electric Light Orchestra – a rhwng 1972 a 1986 cawsant fwy na 40 o ganeuon yn y siartiau yn y DU ac yn UDA nag unrhyw fand arall ar y blaned. Daeth ‘10538 Overture’, ‘Evil Woman’, ‘Living Thing’, ‘Diary of Horace Wimp’, ‘Don’t Bring me Down’ ac wrth gwrs, ‘Mr Blue Sky’ yn rhan o drac sain ein bywydau.
Yn 2016, daeth ELO Jeff Lynne yn ôl i’r amlwg pan ryddhawyd albwm newydd sbon, ‘Alone In The Universe’, ac aeth y band ar daith drwy’r DU a’r byd. Bydd The ELO Experience 2018 yn cynnwys y caneuon mwyaf poblogaidd o gasgliad helaeth a thrawiadol sy’n cwmpasu dros 45 o flynyddoedd.
Gan gyfuno rhythmau roc â dylanwadau clasurol, rhyddhaodd ELO lawer o albymau clasurol megis ‘A New World Record’, ‘Discovery’ ac ‘Out of the Blue’, ac aeth y band ar lawer o deithiau lle gwerthwyd pob tocyn, gan eu sefydlu fel un o’r bandiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol erioed.
The ELO Experience yw’r grŵp teyrnged mwyaf blaenllaw yn y byd i’r Electric Light Orchestra. Gydag adran linynnau ardderchog, sioe oleuadau drawiadol a thaflunyddion sgrîn fawr i wella’r perfformiad ymhellach, pam na ddewch chi i fwynhau’r sioe anhygoel hon, sy’n atgynhyrchu’r caneuon a’r seiniau, ac yn eich tywys ar daith gerddorol hudol drwy amser.
Mae The ELO Experience wedi bod yn cyflwyno cerddoriaeth Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra ar lwyfannau byw ers mwy na 12 o flynyddoedd.
Tocynnau: £25.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English