Date/Time:
Date(s) - 05/10/2018 - 06/10/2018
4:00 pm - 8:00 pm
Location: Sgwâr y Castell
Bydd Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd ym mis Hydref, a bydd darllediad arbennig o ffilm The Greatest Showman ar y Sgrîn Fawr yn Sgwâr y Castell.
Dewch i ddarganfod hanes P.T. Barnum (Hugh Jackman) a’i fywyd fel entrepreneur syrcas ac amgueddfa yn y sioe gerdd arobryn hon. Byddwch yn barod i ymuno yn y canu!
Peidiwch â cholli’r cyfle i ymgolli yn y profiad sinema awyr agored hwn! Ond nid dyna’r cyfan – bydd bwyd stryd, perfformiadau syrcas ar y stryd a llawer mwy o hwyl i’r teulu cyfan!
A gorau oll, mae’r digwyddiad am ddim!
Amserlen
- Marchnad Bwyd Stryd (Pen uchaf Sgwâr y Castell – ger Stryd Beili’r Castell) 4-8pm
- Dangos ffilm The Greatest Showman (Sgrîn Fawr) a pherfformiadau rhyngweithiol o 5.45pm
- Adloniant syrcas 4-8pm
Adloniant Syrcas
Bydd perfformwyr o The Mark Jermin Stage School yn perfformio ar ffurf The Greatest Showman er mwyn helpu i gael pawb i ymuno yn yr hwyl, a bydd cadwyn o alawon The Greatest Showman gan Ysgol Ddawnsio Natalie Salter hefyd! Yn ogystal â’r uchod, bydd deuawd acrobatig a bydd yr holl actau’n perfformio dan reolaeth y Meist Syrcas a fydd yn gwisgo ystudfachau – mae’n siŵr o fod yn berfformiad gwych ar ffurf PT Barnum yn Abertawe!
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English