Date/Time:
Date(s) - 23/06/2018
5:30 pm
Location: Liberty Stadium
Bydd The Killers yn dod i Abertawe ar 23 Mehefin ac yn perfformio’n fyw yn Stadiwm Liberty! The Killers yw un o’r bandiau roc mwyaf poblogaidd sydd wedi perfformio yn ystod y ganrif hon; maen nhw wedi gwerthu dros 25 miliwn o recordiau ym mhedwar ban byd ac maen nhw wedi ennill gwobrau niferus yn y seremonïau gwobrwyo NME, BRIT ac eraill.
Mae pob un o’u pum albwm wedi bod yn hynod lwyddiannus gan ennill y lle cyntaf yn siart albymau’r DU; peidiwch â cholli’r cyfle i glywed Mr Brightside, Somebody Told Me, When You Were Young ynghyd â chaneuon gwych sydd ar eu halbwm diweddaraf, Wonderful Wonderful.
Dyma un o ddwy sioe’n unig ar eu taith, a’r gyntaf ers 2013 pan werthon nhw bob tocyn yn Stadiwm Wembley.
Trefnwch fannau parcio a mannau parcio a theithio
Categories