Date/Time:
Date(s) - 27/10/2017
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Gwahoddir y rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth i barti mwyaf y flwyddyn wrth i sioe ddiatal The Magic of Motown gyrraedd y dref! Mae dros filiwn o bobl o bob cwr o’r byd wedi’i gweld, ac fe’i perfformiwyd yn ddiweddar fel rhan o’r Royal Variety Performance yn 2016. Paratowch eich hun ar gyfer 40 o glasuron Motown, gwisgoedd disglair, dawnsio gwych a dawn gerddorol ragorol yn y gyngerdd fyw syfrdanol hon.
Dathlwch gerddoriaeth cenhedlaeth wrth i ganeuon bythol Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes The Four Tops, Martha Reeves, Jackson 5, Lionel Richie, Smokey Robinson a llawer mwy gael eu hail-greu ar eich cyfer gan gast a band hynod ddawnus.
Mae’r gyngerdd syfrdanol hon yn eich tywys ar daith gerddorol hudol drwy eich hoff ganeuon, gan gynnwys: Ain’t No Mountain, Signed Sealed Delivered, Grapevine, Get Ready, Dancing In The Streets, My Girl, Blame It On The Boogie, Uptight, Endless Love, My Cherie Amor, All Night Long, Heatwave, I’m Coming Out, Loco In Acapulco a llawer mwy.
Tocynnau: £25.00
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories