Date/Time:
Date(s) - 16/06/2018
1:00 pm
Location: Dylan Thomas Theatre
Mae dwy o gantorion jazz gorau’r DU yn ymuno i ddathlu cerddoriaeth y sêr sydd wedi eu hysbrydoli gyda chasgliad o’u hoff ganeuon pan oedd cantorion benywaidd gorau’r ugeinfed ganrif ar eu hanterth.
Mae Lee Gibson (‘yn bywiogi unrhyw gân gyda’i dawn gerddorol’ – The Independent) a Tina May (‘yn trin y clasuron fel y trysorau maent yn parhau i fod’ – The Guardian) yn ddwy o’r cantorion jazz enwocaf, mwyaf hoffus ac uchel eu parch ym Mhrydain.
Maent yn dod at ei gilydd yn y rhaglen ddeinamig a bywiog hon er mwyn dathlu cerddoriaeth y difas jazz sydd wedi eu hysbrydoli. Mae’r rhaglen hon wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.
Bydd Bruce Adams, y trympedwr Prydeinig enwog, yn ymuno â nhw. Disgwyliwch unawdau gwych a deuawdau trawiadol gyda chefnogaeth gan fand cerddoriaeth swing Triawd Dave Cottle.
Tocynnau: £10
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories