Date/Time:
Date(s) - 16/06/2018
3:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Yn 2010, fel arweinydd, cynhyrchydd a threfnydd Orquestra Frevo Diabo, enillodd Daniel wobr bwysicaf cerddoriaeth Brasil, y ‘Prêmio da Música Brasileira’. Rhestrwyd ei albwm deuawd diwethaf gyda’r sacsoffonydd Rodrigo Ursaia fel un o’r albymau offerynnol gorau yn 2016 (www.melhoresdamusicabrasileira.com, 2015). Hefyd y flwyddyn honno, enillodd albwm gorau’r flwyddyn yn yr Akademia Music Awards (Los Angeles/Efrog Newydd). Ar hyn o bryd mae’n cynhyrchu’r Explorative Music Festival ym Merlin.
Ers 2008, mae wedi perfformio’n flynyddol yn nathliadau pen-blwydd y dywysoges Viktoria o Sweden.
Mae Daniel wedi perfformio fel unawdydd, mewn deuawd, triawd a chyda cherddorfeydd mewn dros 200 o ddinasoedd ledled Ewrop, UDA, Asia a De America. Mae wedi ymweld â Tsieina, India, yr Eidal, Portiwgal, y Ffindir, Gwlad Belg, Denmarc, Sweden, Sbaen, Estonia, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Lithwania, y Weriniaeth Tsiec, Ynysoedd y Caribî, Montenegro, Serbia, Panama, Rwsia a Belarus a pherfformio mewn gwyliau megis Copenhagen Jazz, Shunde OCT Jazz, Gŵyl Gitâr Calcutta, APAP yn Efrog Newydd, SXSW yn Texas, Gŵyl Cerddoriaeth y Byd yn Chicago, Gŵyl Gitâr Tampere, Gŵyl Gitâr Mir, Gŵyl Gitâr Uppsalla, Guitar Art Festival, Haapavesi Folk, Nisville Jazz ymysyg eraill.
Mae Marques wedi recordio a pherfformio’n helaeth gydag artistiaid enwog o Frasil megis Hermeto Pascoal, Paulo Moura, Guinga, Carlos Malta, Robertinho Silva, Zé Paulo Becker, Thiago Amud, Yamandu Costa, Nelson Faria, Gilson Peranzzetta, Armandinho, UFRJAZZ, Nicolas Krassik a Jovino Santos Neto ymhlith eraill. Mae hefyd wedi recordio gydag artistiaid rhyngwladol, weithiau’n rhannu’r un rhaglen mewn gwahanol leoedd. Mae rhai o’r artistiaid hynny’n cynnwys Haapavesi Kamara Oskesteri (FI), Paco de Lucia, Randy Brecker, Stanley jordan, John Williams, Charlie Hunter, Incognito, Oscar Herrero, Dmitri Illarionov a Dominic Miller.
Tocynnau: £10
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Prynu tocynnau yma
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories