Date/Time:
Date(s) - 30/09/2018
7:30 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Beethoven: Triawd Piano rhif 3 yn C fwyaf, Op. 1, Rhif 3
Watkins: Four Fables
Messiaen: Quartet for the End of Time
Mae Triawd Piano Gould, sy’n gweithio o Gymru, yn un o’r triawdau piano y mae mwyaf o alw amdano yn Ewrop. Ynghyd â Robert Plane, Prif Glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, maen nhw’n perfformio campwaith epig, trosgynnol Messiaen Quartet for the End of Time (gafodd ei gyfansoddi a’i berfformio am y tro cyntaf mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen) a phremière cydgomisiwn newydd gan Ŵyl Ryngwladol Abertawe (gyda phartneriaid eraill yn cynnwys Neuadd Wigmore) o Four Fables gan y cyfansoddwr Cymreig clodfawr Huw Watkins.
Mae’r Ŵyl yn ddiolchgar i Dŷ Cerdd am ei gefnogaeth yn comisiynu’r gwaith hwn, wedi’i fwriadu i ddefnyddio’r grŵp anarferol o gerddorion sy’n cael eu defnyddio yn narn gweledigaethol Messiaen, sydd yn adlewyrchu’r cerddorion oedd yn garcharorion gyda Messiaen.
Tocynnau
£20, dim seddi gadw
Prynau Tocynnau
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English