Date/Time:
Date(s) - 26/09/2018 - 29/09/2018
7:15 pm
Location: Canolfan Celfyddydau Taliesin
Yn dilyn sioe boblogaidd iawn y llynedd, The Sorcerer, mae’r cwmni o Abertawe, Uplands Arts, yn dychwelyd gydag Iolanthe gan Gilbert a Sullivan – noson llawn hwyl o gerddoriaeth, caneuon a giamocs gwleidyddol.
Mae Strephon, mab Iolanthe, yn hanner dynol, hanner tylwyth teg, mewn cariad dros ei ben a’i glustiau gyda Phyllis, ward yr Arglwydd Ganghellor. Ond nid Strephon yw’r unig un sy’n benderfynol o briodi Phyllis – mae’n ymddangos bod holl aelodau Tŷ’r Arglwyddi am ei phriodi! Mae Iolanthe newydd dderbyn pardwn bum mlynedd ar hugain ar ôl torri cyfraith y tylwyth teg, ac mae’n galw ar gymorth Brenhines y Tylwyth Teg a’i chwiorydd tylwyth teg i sicrhau mai’r dyn iawn sy’n bachu’r ferch – gyda hafoc yn dilyn yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi o ganlyniad i hyn!
Gyda Gilbert yn gwneud hwyl ar ben sefydliad gwleidyddol a chyfreithiol y dydd, a Sullivan yn cynhyrchu peth o’i gerddoriaeth fwyaf deniadol, a hiwmor sy’n dal i atseinio yn arena wleidyddol heddiw, mae apêl Iolanthe cystal heddiw ag yr oedd pan gafodd ei berfformio gyntaf yn 1882.
Tocynnau
£14, seddi cadw
Prynau Tocynnau
Categories