Date/Time:
Date(s) - 29/08/2019
7:30 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Mae’n ddrwg gennym eich hysbysu na fyddwn yn gallu parhau â’n taith i Thrushcross Grange heno oherwydd tywydd rhyfedd ac annisgwyl ar y rhostiroedd. Er eich cysur a’ch diogelwch, byddwn yn aros yn Wuthering Heights, sef hen gartref y teulu Earnshaw a’i amddifad drwgenwog, Heathcliff…
Fe’i magwyd gyda mab chwerw Mr Earnshaw, Hindley, a’i ferch ysgafnfryd, Catherine. Cyn hir, datblygodd perthynas Heathcliff a Cathy’n ramant angerddol nad oedd modd ei rheoli, a oedd yn parhau y tu hwnt i’r llen.
Er gwaethaf eu perthynas angerddol, penderfynodd Cathy briodi Linton, dyn a oedd yn debyg iddi o ran statws, a berodd i Heathcliff ddilyn llwybr llawn dial a hunanddinistr. Arweiniodd ei feddiangarwch a’i natur ansefydlog at gynllun i ddial ar genhedlaeth nesaf y teulu Earnshaw.
Ymunwch â Heartbreak Productions am y cynhyrchiad awyr agored hwn o stori hunllefus Emily Brontë am ddau berson a chanddynt eneidiau mor wyllt a ffyrnig â rhostiroedd anial Swydd Efrog. Dewch â chadair neu flanced, picnic, a dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd er mwyn i ni ddatgladdu stori arswydus eneidiau crwydrol a chariad gwyllt.
Efallai yr hoffech chi gael gwybodaeth am ddigwyddiad cyffrous arall a fydd yn cael ei gynnal yn yr ardal ar yr un adeg. Mae masnachwyr yn y Mwmbwls wedi trefnu sioe geir clasurol, marchnad dros dro ac adloniant stryd, a bydd y cyfan yn digwydd yn Heol Newton rhwng 5.30 a 9.30pm, ddydd Iau 29 Awst.
O ganlyniad, bydd Heol Newton ar gau yn ystod y cyfnod hwn a bydd mwy o alw i ddefnyddio meysydd parcio’r ardal. Hoffem eich cynghori i gynllunio ymlaen llaw, cyrraedd yn gynnar a sicrhau bod gennych chi ddigon o amser i gyrraedd y Castell ac i fwynhau’r sioe ceir clasurol ar eich ffordd yno.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English