Date/Time:
Date(s) - 21/09/2018
7:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Rhagarddangosfa: 7pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o fod yn arddangos gwaith pwerus Yinka Shonibare sy’n archwilio themâu gwrthdaro, ymerodraeth ac ymfudiad yn y flwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
I’w gyflwyno ar y cyd â Nawr Yr Awr gan Marc Rees, a gafodd ei gomisiynu ar gyfer 14-18 NOW, mae gwaith cerflunio Shonibare, End of Empire, yn archwilio sut newidiodd y cynghreiriau a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gymdeithas Prydain am byth a sut maent yn parhau i effeithio arnom heddiw.
Mae’r gwaith yn cynnwys dau ffigwr wedi’u gwisgo mewn defnyddiau patrymog a llachar nodweddiadol yr artist, gyda’u pennau siâp glôb yn amlygu’r gwledydd a oedd yn rhan o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i osod ar si-so Fictoraidd, mae’r holl waith yn troi’n araf yn yr oriel, gan gynnig trosiad ar gyfer deialog, cydbwysedd a gwrthdaro, wrth symboleiddio posibilrwydd cyfaddawdu a dod i gytundeb rhwng dau rym gwrthwynebol.
Mynediad am ddim.
Categories