Date/Time:
Date(s) - 27/10/2018
All Day
Location: Swansea City Centre
Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 27 Hydref 2018 ar gyfer dathliad Calan Gaeaf nodedig am ddim, ‘Diwrnod y Meirw!’
Ymunwch â ni o 11am lle bydd Sgwâr y Castell yn llawn addurniadau, baneri a garlantau blodau Mecsicanaidd, ac wrth gwrs y lluniau penglogau enwog. Gan gynnwys sgiliau syrcas yn seiliedig ar thema, paentio wynebau, darlleniadau cardiau tarot, her cadw’n llonydd, helfa sborion penglogau a thon Fecsicanaidd fwyaf Abertawe!
Dewch i roi cynnig ar flasu’r chilli poethaf erioed a chymerwch ran yn ein cystadleuaeth limbo cyn y prif berfformiad ar y llwyfan mawr am 3.30pm – gyda’r cyfan yn gorffen gyda’r ffilm COCO gan Disney Pixar am 4pm.
Bydd y bwyty Mecsicanaidd Cocina yno hefyd, ac yn rhoi tameidiau am ddim, talebau am bryd o fwyd am ddim i ddau berson a gwobr ar gyfer cystadleuaeth hefyd!
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English