Date/Time:
Date(s) - 23/07/2019 - 25/07/2019
4:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
4.30pm. Maw 4.30pm, Mer 10.30am, 1.30pm & 4.30pm, Iau 11.00am & 2.00pm
Mawr ei faint, yn hoff o’r byd natur, mae Zog hefyd yn awyddus i ennill seren aur yn ysgol Madam Dragon, lle mae dreigiau’n dysgu popeth y mae angen i ddreigiau eu gwybod. Mae Zog yn ceisio mor galed – efallai’n rhy galed – ac mae’n taro, yn llosgi ac yn rhuo ei ffordd drwy flynyddoedd un, dau a thri.
Yn ffodus, mae’r dywysoges ddewr, Princess Pearl, yn ei drin fel ei fod yn barod i wynebu ei her fwyaf eto…sef gornest gyda Gadabout the Great!
Mae cymeriad poblogaidd Julia Donaldson ac Axel Scheffler, Zog, yn dod yn fyw yng nghynhyrchiad hudol Mike Shepherd (sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Kneehigh) gyda sgôr werin swynol Johnny Flynn (actor, canwr a chyfansoddwr arobryn gyda The Sussex Wit), gan gynnwys cerddorion byw. Mae dyluniad Katie Sykes yn dod â’r llyfr o’r tudalenau’n fyw mewn byd gwirioneddol a rhyfedd. Gan y tîm a greodd Tiddler and Other Terrific Tales a Tabby McTat, bydd Zog yn sioe llawn hwyl i bobl o bob oedran.
Tocynnau: Oedolion £16.50, Plant £14.50
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English