NOEL GALLAGHER AR FRIG Y RHESTR O BERFFORMWYR GWYCH YM MHARC SINGLETON, ABERTAWE
Bydd un o’r artistiaid mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, Noel Gallagher, yn dod â’i ganeuon a ddiffiniodd ei genhedlaeth, a’i fand, yr High Flying Birds, i Barc Singleton, Abertawe nos Wener, 2 Medi. Dyma fydd ymweliad cyntaf Noel ag Abertawe ac ef fydd y prif berfformiwr yn ystod y noson wych hon o gerddoriaeth mewn lleoliad hyfryd.
Noel Gallagher’s High Flying Birds fydd ar frig rhestr o berfformwyr sydd hefyd yn cynnwys Frightened Rabbit, yr arloeswyr roc Indie o’r Alban, ac enwebai diweddar Gwobr Gerddoriaeth Mercury a Gwobr Ivor Novello, Gaz Coombes, a’r band roc mawr ei glod o Gymru, Pretty Vicious.
Hyrwyddir y gyngerdd gan Orchard Entertainment, a fu’n hynod lwyddiannus yr haf diwethaf ym Mharc Singleton gyda Paolo Nutini, a chyda Kings of Leon yn Stadiwm Liberty cyn hynny.
Mae Noel Gallagher wedi dod i’r amlwg fel artist unigol hynod lwyddiannus yn dilyn cyfnod euraidd Oasis, gan ddenu adolygiadau gwych yn gyffredinol ar gyfer ei sioeau byw gyda’r High Flying Birds, ac ar hyn o bryd mae ar fin gorffen pedwaredd taith arena o’r DU y gwerthwyd pob tocyn amdani. Mae ei sioeau byw yn gymysgedd trawiadol o ganeuon o’i gatalog cyfoes, gydag anthemau eiconig o’r ganrif ddiwethaf megis Don’t Look Back in Anger, Half the World Away a Champagne Supernova. Meddai Noel,“Doeddwn i ddim yn barod am yr ymateb cadarnhaol a gefais i fy albymau a’m sioeau unigol. Cefais fy rhyfeddu bod y cyfan wedi cyrraedd lefel arena mor gyflym.”
Cyrhaeddodd ei albwm ddiweddaraf, Chasing Yesterday, #1 yn siartiau’r DU y llynedd, a hwn oedd yr albwm a werthodd gyflymaf yn y DU yn ystod ei wythnos gyntaf yn 2015. Ers hynny, mae Noel a’r band wedi cwblhau teithiau arena o’r DU, maent wedi teithio ar draws Gogledd a De America, Ewrop ac Awstralia yn ogystal â pherfformio yn T in the Park yn yr Alban, Gŵyl Latitude a gŵyl roc nodedig Fuji yn Japan. Enillodd Noel wobr arbennig Ivor Novello ar gyfer y Casgliad Gorau o Ganeuon yn 2013 a Gwobr Godlike Genius NME yn 2012.
MAE’R PERFFORMWYR CEFNOGI’N CYNNWYS…
Frightened Rabbit
Mae Frightened Rabbit newydd gyhoeddi eu hail albwm, Painting of a Panic Attack, sy’n derbyn adolygiadau gwych ymhlith y beirniaid ac sy’n dilyn llwyddiant eu halbwm gyntaf a fu yn y 10 uchaf sef Pedestrian Verse. Bydd y band yn canu caneuon o’r ddau albwm clodwiw ym Mharc Singleton.
Gaz Coombes
Enwebai arall Gwobr Ivor Novello sydd ar y rhestr o berfformwyr yw Gaz Coombes, cyn brif-ganwr Supergrass, y mae ei yrfa fel artist unigol yn datblygu’n llewyrchus. Fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury am ei albwm Matador, a’i labelu’n “un o fawrion cyfansoddi caneuon ym Mhrydain” gan y Guardian.
Pretty Vicious
Mae Pretty Vivious wedi bod yn derbyn adolygiadau gwych gan feirniaid a’u dilynwyr ers iddynt ddod i’r amlwg y llynedd gyda’u set fyw ffrwydrol sy’n cyfuno gwefr o adrenalin llawn dicter ag elfen o roc pync go iawn. Mae’r band pedwar aelod o Ferthyr wedi cefnogi’r Manic Street Preachers yng Nghastell Caerdydd, nhw oedd y prif berfformwyr ar Lwyfan Gyflwyno’r BBC yng ngŵyl Glastonbury, ac mae DJs dylanwadol megis Zane Lowe a Huw Stephens ymhlith y rhai sy’n canu eu clodydd.
Mae Orchard Entertainment, ennillydd Hyrwyddwr Rhanbarthol y Flwyddyn, yn rhan o grŵp Orchard Media and Events, hyrwyddwr cerddoriaeth annibynnol mwyaf Cymru. Fe’u cefnogir ar gyfer y gyngerdd ym Mharc Singleton gan Ddinas a Sir Abertawe.
MANYLION TOCYNNAU
Mae gatiau’n agor ar 2 Medi am 4pm, gyda’r perfformiad cyntaf am 5.15pm.
Mae tocynnau ar gael o 10am ar 6 Mai o ticketmaster.co.uk a thrwy ffonio 0844 844 0444, yn bersonol yn Derricks Records a Chanolfan Dylan Thomas, Abertawe, a Ticketline UK yng Nghaerdydd.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English