Yn dangos yr atyniad hanesyddol o’r 12fed ganrif o’r awyr, tynnwyd y fideo a’r lluniau gan ddrôn yn y cyfnod paratoi cyn i’r castell ailagor y penwythnos hwn am dymor yr haf.
Bydd y castell, sy’n edrych dros y Mwmbwls, ar agor i’r cyhoedd rhwng 11am a 5pm bob dydd o ddydd Sadwrn (1 Ebrill) tan 30 Medi.
Wedi’i gosod ar dir y castell, bydd arddangosfa yn cynnwys lluniau o’r tirnod yn nodi ailagor y castell ddydd Sadwrn ym mhabell Cyfeillion Castell Ystumllwynarth. Bydd teithiau tywys o’r castell ar gael rhwng 11.30am a 2.30pm.
Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy’n rheoli’r atyniad. Mae digwyddiadau ar y gweill eraill ymysg haf o hwyl yn cynnwys diwrnod dreigiau a daeargelloedd ar ddydd Sadwrn 8 Ebrill, yn ogystal â gweithdy crefftau ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed rhwng 11.30am a 3.30pm ar ddydd Mercher 12 Ebrill.
Mae nodweddion y castell yn cynnwys hen waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Meddai Erika Kluge, Swyddog Cymunedol Castell Ystumllwynarth yng Nghyngor Abertawe, “Mae’r cyngor yn gweithio’n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy’n addas i deuluoedd bob haf.
“Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell Ystumllwynarth y llynedd i fwynhau detholiad o weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg eleni.
“Mae’r castell yn cynnig profiad i ymwelwyr o’r radd flaenaf sydd yr un mor bleserus ag y mae’n addysgol. Yn ogystal â hybu twristiaeth treftadaeth yn Abertawe, mae stori lwyddiant defnydd y castell drwy gydol misoedd yr haf hefyd yn cefnogi ein cynnig am statws Dinas Diwylliant 2021.”
Cyflawnwyd cynllun cadwraeth sylweddol yng Nghastell Ystumllwynarth yn ddiweddar gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru trwy Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cefnogwyd y cynllun gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Benrhyn Gŵyr gael ei gipio gan y Normaniaid. Roedd Brenin Edward 1, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â’r castell am ychydig ym mis Rhagfyr 1284.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English