Mae’r Glynn Vivian yn ailagor ddydd Sadwrn 15 Hydref ac i nodi dathliadau’r wythnos agoriadol mae’r Oriel wedi bod yn gweithio gyda saith artist er mwyn paratoi Gorymdaith Agoriadol fawreddog i groesawu pawb yn ôl i Glynn Vivian ac i’r adeilad newydd.
Ddydd Sadwrn 17 Medi, 12pm – 4pm yn y YMCA byddwn yn cynnal diwrnod agored galw heibio arbennig ar gyfer yr orymdaith er mwyn i aelodau’r cyhoedd a chymuned Abertawe gael cyfle i gofrestru i helpu i gwblhau gwisgoedd, baneri, mygydau a phropiau, ac i fod yn rhan o’r orymdaith.
Rydym yn chwilio am hyd at 175 o bobl i’n helpu i greu ffrwydrad gweledigol o liw a sain yng nghanol y ddinas i groesawu pawb yn ôl i’r Glynn Vivian ar Heol Alexandra.
Trwy gymryd rhan yn nathliadau Gorymdaith Agoriadol Glynn Vivian, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i fod ymhlith y rhai cyntaf i fynd i mewn i’r oriel newydd a gweld yr adeilad ar ei newydd wedd am y tro cyntaf erioed.
Bydd y Glynn Vivian yn agor gyda phenwythnos llawn digwyddiadau am ddim a cherddoriaeth fyw ac mae’n nodi dechrau oriel gelf newydd fywiog ac ysbrydolus i bawb.
Peidiwch â cholli’r cyfle i gymryd rhan a’n helpu ni i ddathlu ailagor Oriel Gelf Glynn Vivian.
I bob oedran, croeso i bawb. Does dim angen cadw lle
- Dydd Sadwrn 17 Medi, 12pm – 4pm, YMCA Abertawe – gweithdai paratoi ar gyfer yr Orymdaith Agoriadol
- Dydd Sadwrn 15 Hydref – Penwythnos agoriadol yn dechrau gyda’r orymdaith. Oriau agor i’r cyhoedd 2pm tan yn hwyr
- Dydd Sul 16 Hydref – Digwyddiadau am ddim yn parhau yn oriel gelf Glynn Vivian, ar agor 10am – 5pm
Oriel Gelf Glynn Vivian, Heol Alexandra, Abertawe SA1 5DZ
01792 516900 www.glynnviviangallery.org
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English