Bydd digon o bethau i Blant Actif eu gwneud ar draws ein holl ganolfannau hamdden Abertawe Actif hanner tymor hwn!
Canolfannau hamdden Abertawe Actif yw’r lle i fod yn hanner tymor mis Mai. Mae gennym ystod eang o weithgareddau difyr i blant o bob oed eu mwynhau, o gymnasteg a sesiynau bownsio a chwarae. Gwnewch sblash gyda sesiynau nofio am ddim, hwyl yn y pwll gydag offer chwyddadwy a chyrsiau nofio carlam am wythnos. Hefyd mae gennym lawer mwy ar gael gan gynnwys aml-gamp a gwersylloedd pêl-droed a gwersylloedd i ferched.
I gadw lle, ffoniwch y ganolfan o’ch dewis:
- Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt – 01792 235040
- Canolfan Hamdden Treforys – 01792 797082
- Canolfan Hamdden Penlan – 01792 588079
- Canolfan Hamdden Penyrheol – 01792 897039
Cofiwch y gallwch gofrestru ar gyfer Aelodaeth Plant Actif, sy’n caniatáu i bob person ifanc dan 16 oed ddefnyddio unrhyw sesiwn talu a chwarae am £15 y mis yn unig – dim ond £3.75 yr wythnos (mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn ein gweithgareddau hanner tymor!)
Gweithgareddau Hanner Tymor Landeilo Ferwallt
Gweithgareddau Hanner Tymor Treforys
Canolfan Hamdden Penlan Rhaglen Hanner Tymor Mis Mai
Canolfan Hamdden Penyrheol Rhaglen Hanner Tymor Mis Mai