Efallai ei bod hi’n teimlo mai wythnos ddiwethaf y buom yn dathlu’r Pasg, ond mae eisoes yn amser i gynllunio ar gyfer gwyliau ysgol llawn hwyl unwaith eto! Rydym ni yn Joio Bae Abertawe wedi trefnu digon o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer yr wythnos, sy’n siŵr o ddiddanu’r teulu cyfan beth bynnag fo’r tywydd.
Lido Blackpill
Ddydd Sadwrn 27 Mai bydd parc dŵr awyr agored AM DDIM Abertawe’n agor ar gyfer tymor 2017 – y lle perffaith i ymlacio gyda’r plant bach. Mae hyn hefyd yn golygu ei bod hi bron yn amser o’r flwyddyn i lenwi’r fasged bicnic a gweddïo am heulwen, fel y gallwch wneud yn fawr o fannau agored Bae Abertawe.
Pryfetach
Yr hanner tymor hwn, mae Parth Anifeiliaid yn dychwelyd i Plantasia ar 30 Mai gyda Pharth Anifeiliaid: Pryfetach. Dewch i weld eich hoff bryfetach, gan gynnwys chwilod, sgorpionau, tarantwlaod sy’n bwyta adar a llawer mwy! Cadwch le yn awr, mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym.
Castell Ystumllwynarth
Yn ogystal â Diwrnod Hanes Byw Canoloesol ar 27 Mai, adroddir straeon yng Nghastell Ystumllwynarth ar 3 Mehefin. Beth am orffen eich gwyliau gyda straeon am ddaeargelloedd, dreigiau, tywysogesau a mwy, wrth i chi fynd ar antur drwy amser i dir cyfriniol.
Teithiau Dylan: hwyl i’r teulu yn Canolfan Dylan Thomas
Yr hanner tymor hwn, ymunwch â ni yn Canolfan Dylan Thomas ar gyfer llu o weithgareddau llawn hwyl i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan deithiau Dylan, gan gynnwys gwledydd yr ymwelodd â nhw a’r lleoedd yr ysgrifennodd amdanynt, rhai go iawn a dychmygol.
Miri Mai!
Mae gennym lu o weithgareddau llawn hwyl i ddiddanu’r plant yr hanner tymor hwn yn ein canolfannau hamdden Abertawe Actif. Gallwch gael sesiynau nofio am ddim, hwyl yn y pwll gydag offer chwyddadwy, cerddwyr dŵr a chyrsiau nofio carlam am ddim ar gyfer yr wythnos. Mae gennym lawer mwy hefyd ar gynnig gan gynnwys sesiynau aml-gamp, tenis bach, gymnasteg, pêl-rwyd, sglefrolio, bownsio a chwarae a gwersylloedd pêl-droed gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol yr Elyrch.
Cofiwch gadw llygad am lyfryn Haf Joio Bae Abertawe sydd AM DDIM; y llyfryn i weld yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau ym Mae Abertawe’r haf hwn – mae ar gael nawr!
Neu os nad ydych yn gallu aros i ganfod yr hyn sy’n digwydd yr haf hwn, mae’r llyfryn y gellir ei lawrlwytho ar gael yma.
I gael y diweddaraf…
Ymunwch â rhestr bostio Joio Bae Abertawe i dderbyn e-hysbysebion rheolaidd sy’n cynnwys newyddion am yr holl ddigwyddiadau a syniadau gorau am bethau i’w gwneud ym Mae Abertawe…