Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydym yn ei hadnabod ac yn dwlu arni.
P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n cydnabod ac yn anrhydeddu eu cyflawniadau a’u cyfraniadau neilltuol i chwaraeon trwy Wobrau Chwaraeon Abertawe.
ENWEBWCH RYWUN AR GYFER UN O WOBRAU CHWARAEON ABERTAWE
Categorïau’r Gwobrau
- Chwaraewr y Flwyddyn
- Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn
- Chwaraewr Iau’r Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Person Ifanc Ysbrydolus y Flwyddyn
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
- Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn
- Tîm Ysgol y Flwyddyn
- Gwobr Abertawe Actif
- Cyfraniad Gydol Oes at Chwaraeon
Gwobr Abertawe Actif -mae’r wobr yma ar gyfer unrhyw unigolyn, grŵp o bobl, clwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, sydd wedi ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.
Cyfraniad Gydol Oes at Chwaraeon – bydd y categori hwn yn cydnabod un gwirfoddolwr blaenllaw am ei wasanaeth hir a’i gyfraniadau parhaus at chwaraeon yn ei gymuned leol. Ni dderbynnir enwebiadau ar gyfer y categori hwn a dewisir yr enillydd yn ôl disgresiwn y beirniaid.)
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Fercher 13 Mawrth 2019 yn Neuadd Brangwyn.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad y flwyddyn nesaf, enwebu a chyfleoedd noddi, cysylltwch â Nia.Parry@abertawe.gov.uk