Mae gan bobl y cyfle i roi rhodd Nadolig wahanol eleni drwy enwebu tîm neu berson ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2016.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 14 blynedd.
Mae categorïau eraill yn cynnwys Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn, Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn, Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn a Thîm Ysgol Uwchradd y Flwyddyn.
Bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu Chwaraewr y Flwyddyn, yn ogystal â chategorïau ar gyfer Chwaraewr Iau a Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn.
Ymhlith yr enillwyr yn 2015 oedd rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a enillodd y wobr am Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn, a Dan Biggar, maswr y Gweilch a Chymru, a enwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn.
Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Iau, 16 Mawrth 2017 yn Neuadd Brangwyn.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English