fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Deuathlon y Mwmbwls – dydd Sul 23 Mawrth 2024

Cynhelir Deuathlon y Mwmbwls ddydd Sul 23 Mawrth 2024, a bydd angen cau’r ffyrdd canlynol ar gyfer y digwyddiad rhwng 8.30am ac 11am;

  • Lunnon Hill, Parkmill: ar gau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o’i gyffordd â’r A4118, South Road, i’w gyffordd ag Ilston Road, pellter o oddeutu 680 metr.

Y llwybr arall i draffig cerbydau fydd trwy Willoxton Lane, North Road, y B4271, a South Road, yr A4118, pellter o oddeutu 12 cilomedr.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng a cherddwyr ar bob adeg.


Parc Singleton – Digwyddiadau

Er mwyn atal parcio anystyriol ac felly, gobeithio, leihau’r anghyfleustra i breswylwyr, bydd nifer o ffyrdd ar gau a bydd conau “Dim parcio” yn cael eu gosod ar hyd sawl ffordd breswyl o gwmpas y parc ar ddiwrnod pob digwyddiad. Hoffem eich sicrhau y cedwir mynediad i gerbydau argyfwng bob amser.

Yn ystod y cyfnodau adeiladu a thynnu i lawr, yn ogystal ag yn ystod y digwyddiadau eu hunain, bydd Parc Singleton yn aros ar agor fel arfer, fodd bynnag, bydd mynediad i rai ardaloedd wedi’i gyfyngu ac mae’n bosib y bydd defnyddwyr y parc yn profi cynnydd sylweddol mewn traffig cerbydol. Dilynwch yr arwyddion cyfeiriol a diogelwch fel y bo’n briodol. Fel dewis arall efallai bydd yn fwy cyfleus i breswylwyr ymweld â pharc gwahanol yn yr ardal leol.

Parc Singleton – Digwyddiadau a Gynlluniwyd ar gyfer y Dyfodol

Caiff y rhestr hon ei diweddaru wrth i ddigwyddiadau a gweithgareddau newydd gael eu hychwanegu at y calendr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.croesobaeabertawe.com/joio/


Gwybodaeth am Gyngherddau Mawr

Sŵn

Rydym yn gwerthfawrogi bod gan bawb lefelau goddefiant gwahanol o ran cerddoriaeth mewn digwyddiadau. Gellwch fod yn hollol sicr ein bod bob tro’n rheoli lefelau sain y gerddoriaeth yn y cyngherddau hyn yn ofalus. Bydd swyddogion o Dîm Llygredd Sŵn y cyngor yn bresennol yn y rhan fwyaf o’r cyngherddau mawr a byddant yn gweithio’n agos gyda hyrwyddwyr y gyngerdd i sicrhau bod lefelau sain yn aros o fewn y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt gynt.

Cynhelir gwiriadau sain cyfyngedig cyn pob cyngerdd (heb fod yn hwyrach na 21:00).

Bydd cyrffyw sŵn ar waith o 23:00 ar ddiwrnod pob digwyddiad.

Bydd hefyd linell gymorth sŵn ddynodedig ar gael drwy gydol y sioe – ffoniwch 07587 931212.

Sbwriel ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Ar gyfer cyngherddau mawr, bydd timau o Wasanaeth Glanhau’r cyngor wrth law i fynd i’r afael ag unrhyw ardaloedd sy’n broblem o ran sbwriel.

Cynhelir gwaith glanhau trylwyr ar ôl pob cyngerdd.


Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch ni yn special.events@abertawe.gov.uk. (Caiff y cyfeiriad hwn ei fonitro yn ystod oriau swyddfa arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn ystod cyngherddau mawr yn y parc).

Dylid cyfeirio cwestiynau mewn perthynas â gwerthiant tocynnau ac argaeledd at hyrwyddwr perthnasol y gyngerdd. Nid yw staff y cyngor yn gallu cael gafael ar docynnau nac ateb cwestiynau mewn perthynas â thocynnau.

Ar gyfer cyngherddau mwy yn y parc. Bydd Swyddogion Trwyddedu o Gyngor Abertawe’n bresennol i fonitro lefelau sain ac i sicrhau y bodlonir amodau trwyddedu. Bydd ein Llinell Gyswllt i Breswylwyr a Busnesau’n gweithredu – 01792 635428 (2pm i 10pm ar ddiwrnod pob digwyddiad).