Wrth i’r diwrnodau ymestyn a’r haul ddechrau ymddangos, mae’n amser ar gyfer Gŵyl Cwrw Almaenaidd Abertawe! Yn dilyn digwyddiad lle gwerthwyd pob tocyn yn 2017, mae Gŵyl Cwrw Almaenaidd Abertawe yn dychwelyd ar gyfer 2018 ac mae’r ŵyl eleni’n fwy nag erioed!
Rhyfeddwch wrth i Barc yr Amgueddfa gael ei drawsnewid yn bentref Almaenaidd go iawn – gyda chabanau pren – a mwynhewch benwythnos hir llawn cerddoriaeth Almaenaidd go iawn a chyrfau ffres, gweinyddion mewn Lederhosen a Dirndl, ynghyd â dewis o fwyd o’r Almaen ac Awstria gan gynnwys Bratwurst, Schnitzel a mwy…
Mae mynediad am ddim i’r Ardd Gwrw awyr agored, lle gallwch fwynhau dewis o 3 o gyrfau Almaenaidd a wnaed â llaw (Weißbier, Festbier neu Craftbier) a thorheulo yn heulwen Abertawe gyda cherddoriaeth Oompah yn chwarae yn y cefndir. Bydd hefyd amrywiaeth o fwydydd o’r Almaen ac Awstria ar gael, felly sicrhewch eich bod yn cael blas ar y ffordd Dyrolaidd o fyw!
Fodd bynnag, os ydych chi wir am ddathlu fel rhywun o’r Almaen, mae angen i chi ymweld â’r Babell Ŵyl! Gydag ardal far ar wahân, meinciau pren hir a lle i ddawnsio, y Babell Ŵyl Fafaraidd yw’r lle i fod er mwyn dathlu! Gydag amrywiaeth o gerddoriaeth, o glasuron o’r Almaen megis Anton aus Tirol, i’r ffefrynnau y mae pawb yn mwynhau eu cyd-ganu megis 500 miles, mae’r DJ yn siŵr o wneud i chi ddawnsio’n gynt nag y gallwch ddweud ‘ein stein bitte!’
Mae tocynnau ar gyfer y Babell Ŵyl Fafaraidd yn gyfyngedig, felly prynwch eich tocynnau heddiw i sicrhau eich lle yn y dathliadau!
Oriau agor:
- Nos Wener 27 Ebrill: 4pm – 11pm
- Dydd Sadwrn 28 Ebrill: 11am – 11pm
- Dydd Sul 29 Ebrill: 12.30pm – 7.30pm
Tocynnau’r Babell Ŵyl (Argaeledd Cyfyngedig):
Tocyn Pabell Arbennig Cyfyngedig £5-6: yn cynnwys sedd gadw yn yr Ardd Gwrw a mynediad yn ogystal â sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd)
Tocyn Cwrw £25-£30: yn cynnwys sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd), un stein (2 beint) o Festbier a phlât o fwyd blasus gyda Schnitzel a salad tatws Almaenaidd ac Underberg (digestif). Gyda thocyn gallwch gael mynediad i’r rhan o’r digwyddiad sydd am ddim hefyd.
Tocyn VIP £35-£40: yn cynnwys mynediad VIP â blaenoriaeth a sedd gadw yn ardal VIP y Babell Ŵyl Fafaraidd gydag 1 gwydraid o Schlumberger sekt, 2 Stein (2 beint) o gwrw (gallwch ddewis o Weißbier Bafaraidd, Festbier Bafaraidd neu Craftbier Bafaraidd), plât o fwyd blasus gyda Schnitzel a salad tatws Almaenaidd ac Underberg (digestif). Gyda thocyn gallwch gael mynediad i’r rhan o’r digwyddiad sydd am ddim hefyd.