Mae wedi bod yn ras wych hyd yn hyn a, diolch i’ch cefnogaeth wych, mae ras 10k Bae Abertawe Admiral wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Rhedeg 2017!
Rydym yn hynod falch o gyrraedd y 12 olaf yn y categorïau 10k Orau a’r Digwyddiad Gorau i Blant. Ar ôl ennill statws 2il 10k Orau’r DU yng ngwobrau’r llynedd, rydym yn gobeithio ennill eleni!
Mae’r llinell derfyn mewn golwg ac mae pob pleidlais yn cyfrif – mae’r rownd bleidleisio derfynol yn cau dydd Llun 20 Mawrth. Munud yn unig sydd ei hangen i bleidleisio, felly ewch i’r wefan gan ddilyn y dolenni isod, pleidleisiwch drosom a helpwch ni i ennill y wobr gyntaf!
Pleidleisiwch dros 10K Bae Abertawe Admiral yn y Gwobrau Rhedeg
Pleidleisiwch drosom yn y categori Addas i Blant hefyd
Cyfle i gofrestru’n gynnar nawr!
Cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral 2017 ddydd Sul 24 Medi, ac mae’r cyfle i gofrestru’n gynnar ar gael o hyd!
Mae ffioedd cofrestru yr un peth â ffioedd y llynedd, sef £22 i ymgeiswyr sy’n aelodau o UKA neu £24 i ymgeiswyr nad ydynt yn aelodau o UKA. Ond brysiwch, nid yw’r cyfle i gofrestru’n gynnar ar gael am gyfnod hir, felly cofrestrwch heddiw a sicrhewch eich lle wrth y llinell ddechrau!
Cyfle i gofrestru nawr ar gyfer y rasys iau!
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cyfle i gyflwyno cais ar gyfer rasys iau 1k, 3k a 5k ar agor nawr. Gyda chwrs cyflym a gwastad, cefnogaeth wych ac awyrgylch cyfeillgar llawn hwyl, mae ein rasys iau yn gyflwyniad perffaith i rasio i’ch rhai bach.
Darganfyddwch mwy a chyflwynwch gais ar-lein nawr
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English